Sam sy’n cipio wobr Chwaraewr y Mis Olew dros Gymru

GwenanNewyddion

Y chwaraewr ail reng Sam Lousi sydd wedi ennill y bleidlais Chwaraewr y Mis y Cefnogwyr ar gyfer mis Ebrill.

Enillodd y bleidlais ar ein sianeli Trydar ac Instagram am yr ail dro y tymor yma gyda 34% o gefnogwyr yn dewis y chwaraewr rhyngwladol i Donga fel eu prif chwaraewr dros y pum penwythnos diwethaf.

Maeddodd y gystadleuaeth yn erbyn yr asgellwr Ryan Conbeer, maswr Sam Costellow a’r wythwr Sione Kalamafoni.

Cadwch lygad ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol wrth i ni gychwyn pleidlais am chwaraewr y tymor ac am eich chwaraewr arleosol a hoff gais o’r ymgyrch 2022-23.