Samson Lee wedi’i alw i fyny i garfan Cymru

Rob Lloyd Newyddion

Mae Samson Lee wedi’i alw i fyny i garfan Cymru o flaen gêm prawf yr haf yn erbyn Canada yn Stadiwm y Principality.

Mae’r prop pen tynn profiadol yn cymryd lle Tomas Francis, sydd wedi anafu ei gefn.

Dychwelodd Samson i rygbi ar gêm ddiwethaf y tymor yn erbyn Caeredin ar ôl gwella o gyfergyd hirdymor.

Enillodd ei gap diweddaraf yn ystod Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn erbyn Lloegr ym Mharc y Scarlets nôl ym mis Tachwedd.

Chwaraewyr ail reng Seb Davies (Caerdydd) a Rhys Davies (Gweilch) a mewnwr Caerdydd Lloyd Williams sydd hefyd wedi’u hychwanegu at y garfan.

Mae Seb Davies yn eilyddio Adam Beard sydd wedi’i alw i fyny i garfan y Llewod fel eilydd ar gyfer Alun Wyn Jones.

Y clo di-gap Rhys Davies sydd yn cymryd lle Josh Navidi sydd hefyd wedi’i alw i fyny i’r Llewod i eilyddio Justin Tipuric.

Yn y cyfamser, mae Lloyd Williams wedi’i alw i fyny i’r garfan wrth i Rhodri Williams derbyn asesiadau am anaf i’w ysgwydd.

Yn dilyn gêm dydd Sadwrn yn erbyn Canada, bydd Cymru yn chwarae’r Ariannin dwywaith.