Scarlets a Dreigiau i gwrdd am gêm gyfeillgar

Rob Lloyd Newyddion

Bydd Scarlets yn herio’r Dreigiau mewn gêm gyfeillgar yn Rodney Parade amser cinio dydd Gwener (cic gyntaf 12yp).

Yn debyg i’r gêm yn erbyn y Gweilch y mis diwethaf, mae’r gêm wedi’i threfnu i roi amser gwerthfawr i chwaraewyr ar y cae cyn ailddechrau y Guinness PRO14.

Yn unol â chanllawiau cyfredol Covid-19, bydd y gêm yn cael ei chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig, ond rydym yn gweithio gyda’n ffrindiau yn y Dreigiau i sicrhau bod y gêm lawn ar gael i’w gweld ar sianeli cymdeithasol trwy ffrwd fyw. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion yn agosach at y gêm.

Cyfarfu’r ddwy ochr yn ddiweddar yn ystod penwythnos olaf tymor rheolaidd 2019-20 PRO14 ym mis Awst.