Scarlets A i groesawu Leinster i’r Parc

Menna Isaac Newyddion

Fe fydd y Cwpan Geltaidd yn cyrraedd Llanelli dros y penwythnos wrth i Scarlets A groesawu Leinster A i Barc y Scarlets.

Yn dilyn y fuddugoliaeth dros Ulster A oddi cartref penwythnos nesaf fe fydd tîm Richard Kelly yn gobeithio cadw’r momentwm yn fyw.

Os nad ydych yn teithio i Galway ar gyfer gêm y Scarlets yn y Guinness PRO14 dewch draw i Barc y Scarlets i gefnogi cenhedlaeth nesaf y rhanbarth!

£7 yn unig yw mynediad i ddalwyr tocyn tymor (oedolion) a £13 i rheini sydd ddim yn ddalwyr tocyn tymor.

Fe fydd Scarlets A yn wynebu Leinster A am 14:30 gyda gêm Connacht v Scarlets ar y sgrin yn Lolfa Quinnell, cic gyntaf 17:15.

Mae mynediad i wylio gêm Connacht v Scarlets yn rhad ac am ddim ar ôl 16:30.

Gemau Cwpan Geltaidd Scarlets A;

    • Scarlets A v Leinster A, Sadwrn 22ndMedi, Parc y Scarlets, CG 14:30
    • Scarlets A v Connacht A, Sadwrn 29th Medi, Caerfyrddin, CG 14:30
    • Munster A v Scarlets A, Gwener 5th Hydref, Irish Independent Park, Cork, CG 19:30
    • Scarlets A v Dreigiau A, Sadwrn 13th Hydref, Banc yr Eglwys, Llanymddyfri, CG 14:30
    • Rownd Derfynol Cwpan Geltaidd, Sadwrn 20th Hydref

Bydd y tîm i wynebu Leinster yn cael eu gyhoeddi yfory, Dydd Gwener, gyda diweddariadau o’r gêm yn fyw ar tudalen Trydar @ScarletsAcademy