Connacht bydd yr ymwelwyr i Barc y Scarlets yn y ngêm agoriadol ymgyrch Guiness Pro14 cyntaf Brad Mooar.
Mae gemau’r calendr ar gyfer tymor Pencampwriaeth 2019-20 wedi eu datgelu, gyda’r Scarlets yn mwynhau mantais caratref yn y rownd agoriadol ddydd Sadwrn, Medi 28, mewn gornest yn erbyn eu gelynion Cynhadledd B newydd gyda’r gic gyntaf am 5.15yh.
Am y tro cyntaf, mae dyddiadau ac amseroedd y gic gyntaf hyd at rownd 20 wedi eu cadarnhau gyda phencampwyr 2016-17 adref ar gyfer pedwar o’r 6 gêm gyntaf.
Wedi’r gêm yn erbyn Connacht, bydd y Scarlets yn teithio i gyfeiriad y gogledd i herio’r ail yn y gystadleuaeth dymor diwethaf, Glasgow, yn Scotstoun.
Zebre yw’r ymwelwyr i Barc y Scarlets yn y drydedd rownd, yna mae’n daith arall i’r Alban i wynebu Caeredin.
Bydd Parc y Scarlets yn croesawu’r Toyota Cheetahs a Benetton dros dau benwythnos yn olynol yn y bumed a’r chweched rownd cyn ffocysu ar ddwy gêm agoriadol Cwpan Her Ewrop.
Dyddiad y gêm ddarbi fawr yn erbyn y Gweilch yw’r slot draddodiadol ar Ddydd San Steffan gyda thorf enfawr yn sicr o ymddangos ar gyfer yr ornest ddydd Iau, Rhagfyr 26 ym Mharc y Scarlets (5.15yh).
The Scarlets v Ospreys derby returns to a Boxing Day date
Bydd y Scarlets yn cyrraedd 2020 gan herio Gleision Caerdydd ddydd Gwener, Ionawr 3ydd ym Mharc yr Arfau (7.35yh).
Dywedodd hyfforddwr y blaenwyr, Ioan Cunningham: “Mae’n wych inni gael gêm gartref i ddechrau’r tymor ac i Brad gael profi hud Parc y Scarlets yn ei gêm gyntaf yn y gystadleuaeth.
“Byddwn, byddwn yn gweld eisiau nifer o’n chwaraewyr sydd yn cyflawni dyletswyddau Cwpan y Byd, ond rydym yn edrych ymlaen i weld talent ifanc cyffrous y garfan yn derbyn profiadau newydd.
“Mae Connacht yn ddechreuad heriol, mae’n nhw’n dîm safonol sy’n chwarae rygbi gwych ac ni fyddant yn colli nifer fawr o chwaraewyr i Iwerddon.
“Ond, fel ddywedais, mae bod adref i ddechrau yn wych i ni ac i gyfnod newydd gyda’n tîm hyfforddi.”
Wrth ddisgwyl cadarnhau gemau calendr y Cwpan Her fis nesaf, bydd gan gefnogwyr y Scarlets 14 gêm ym Mharc y Scarlets gydag un ychwanegol yn Stadiwm y Principality ar Ddydd y Farn fel rhan o’u pecyn tocyn tymor.
Mae gan docyn tymor 2019-20 fwy o fuddion ac arbedion nawr nag erioed o’r blaen, yn cynnwys disgownt o 10% yn y siop ar nwyddau’r Scarlets.
Am fanylion cyflawn ar sut allwch brynu tocyn tymor ac ymuno a’r pac, ewch i scralets.wales.
Gemau Calendr
September
Rd 1 – Dydd Sadwrn, Medi 28: Connacht (Parc y Scarlets) 5.15yh
Hydref
Rd 2 – Dydd Gwener, Hydref 4: Glasgow (Scotstoun) 7.35yh
Rd 3 – Dydd Sadwrn, Hydref 12: Zebre (Parc y Scarlets) 3pm
Rd 4 – Dydd Sadwrn, Hydref 26: Caeredin (BT Murrayfield) 7.35yh
Tachwedd
Rd 5 – Dydd Sadwrn, Tach 2: Toyota Cheetahs (Parc y Scarlets) 3yh
Rd 6 – Dydd Sadwrn, Tach 9: Benetton (Parc y Scarlets) 7.35yh
Rd 7 – Dydd Gwener, Tach 29: Ulster (Kingspan Stadium) 7.35yh
Rhagfyr
Rd 8 – Dydd Sadwrn, Rhag 21: Dreigiau (Rodney Parade) 5.15yh
Rd 9 – Dydd Iau, Rhag 26: Gweilch (Parc y Scarlets) 5.15yh
Ionawr
Rd 10 – Gwener, Ion 3: Gleision Caerdydd (Parc yr Arfau Caerdydd) 7.35yh
Chwefror
Rd 11 – Dydd Sadwrn, Chwe 15: Caeredin (Parc y Scarlets) 3yh
Rd 12 – Dydd Sul, Chwe 23: Isuzu Southern Kings (Parc y Scarlets) 5.15yh
Rd 13 – Dydd Sadwrn, Chwe 29: Munster (Thomond Park) 5yh
Mawrth
Rd 14 – Dydd Gwener, Mawrth 20: Connacht (The Sportsground) 5.15yh
Rd 15 – Dydd Sadwrn, Mawrth 28: Dreigiau (Parc y Scarlets) 3yh
April
Rd 16 – Dydd Sadwrn, Ebrill 11: Isuzu Southern Kings (Nelson Mandela Bay Stadium) 3yh
Rd 17 – Dydd Sadwrn, Ebrill 18: Gleision Caerdydd (lleoliad i’w gadarnhau) 5.15yh
Rd 18 – Dydd Gwener, Ebrill 24: Benetton (Stadio Monigo) 6.05yh
Mai
Rd 19 – Dydd Sadwrn, Mai 9: Leinster (Parc y Scarlets) 7.45yh
Rd 20 – Dydd Sadwrn, Mai 16: Munster (Parc y Scarlets) 5.15yh
Rd 21 – Gweilch (Stadwm Liberty) Dyddiadau ac Amser Cic Gyntaf i’w cadarnhau