Fe dderbyniwyd y Scarlets heddiw llythyr wrth Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, yn cadarnhau fydd rhaid i’r grwp parhau i gwblhau eu cyfnod yng nghwarantin ym Melffast.
Mae’r grwp o 47 wedi bod yng nghyfleusterau wedi’i rheoli gan y llywodraeth ers fore Llun yn dilyn eu dychweliad o Dde Affrica ac fydd rhaid cwblhau’r 10 diwrnod o hunan ynysu yng Ngogledd Iwerddon, sy’n gorffen ar Ddydd Gwener, Rhagfyr 10.
Bydd y Scarlets yn parhau i gadw at y drefn brofi a nodwyd ar gyfer y cyfnod cwarantîn hwn.
Ers i’r penderfyniad cael ei wneud i’r grwp i ddychwelyd o Dde Affrica, rydym wedi bod mewn trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru ynghylch cwblhau ein cwarantîn yng Nghymru, ond oherwydd nad oes cyfleusterau cwarantin yng Nghymru nad yw hyn yn bosib.
Er ein bod yn siomedig, ein blaenoriaeth fwyaf yw iechyd a lles ein chwaraewyr a’n staff. Mae swyddogion y clwb mewn cysylltiad cyson â’r tîm hyfforddi, chwaraewyr a staff cymorth yn Belfast a byddwn yn parhau i sicrhau bod ganddyn nhw bopeth sydd eu hangen arnyn nhw wrth barchu rheolau’r broses cwarantîn.