Scarlets i chwarae’r Dreigiau a Chaerdydd mewn gemau cyfeillgar

Rob LloydNewyddion

Bydd y Scarlets yn chwarae yn erbyn Clwb Rygbi’r Dreigiau a Rygbi Caerdydd fel rhan o’i raglen cyn-dymor.

Carfan Dwayne Peel bydd yn cynnal y Dreigiau ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Gwener, Hydref 6, ac yn teithio i Barc yr Arfau i wynebu Caerdydd ar Ddydd Gwener, Medi 29. Bydd y ddwy gêm yn cychwyn am 7yh.

Bydd y gemau yma yn rhan o gyfres o gemau rhwng y rhanbarthau proffesiynol yng Nghymru sy’n arwain i fyny at ddechreuad ein hymgyrch yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar Hydref 22. Mwy o wybodaeth ynglŷn â thocynnau i ddod.

Cyn hynny, bydd y Scarlets yn herio’r Barbariaid yn Gêm Goffa Phil Bennett ym Mharc y Scarlets ar Fedi 16 (2:30yp).

Tocynnau ar gael ar lein ar wefan tickets.scarlets.wales neu trwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01554 292939.