Scarlets i ddarganfod cystadleuaeth Ewro

Rob Lloyd Newyddion

Bydd Scarlets yn darganfod eu gwrthwynebwyr ar gyfer Cwpan Her EPCT 2022-23 pan fydd y broses tynnu enwau ar gyfer y rowndiau pool am y tournament yn Stadiwm Aviva ar Ddydd Mawrth (Mehefin 28).

Bydd y broses tynnu enwau am Gwpan Her yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.epcrugby.com ac yn dechrau am 12.

Bydd y broses am Gwpan Her, sy’n cynnwys y tîm o Johannesburg y Lions a’r Cheetahs o Bloemfontein, gydag 20 o glybiau o fewn tair haen er mwyn creu dau pool o 10 – Pool A a Pool B. Ni fydd clybiau o’r un gynghrair yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn ystod y rowndiau pool.

Bydd y Scarlets yn cael ei gynnwys fel un o glybiau Haen 1 ac yn chwarae dau glwb o Haen 3 – sef Caerfaddon, Cheetahs, Perpignan neu Bayonne.

Bydd tymor 2022-23 EPCR yn cael ei chwarae dros wyth penwythnos gyda phedwar rownd o gemau pool yn cychwyn ym mis Rhagfyr, gyda gemau knockout yn dilyn gan gynnwys rownd yr wyth olaf, rowndiau cynderfynol, a’r rownd derfynol yn Stadiwm yr Aviva yn Nulyn ar Fai 19 a 20, 2023.

2022/23 EPCR CHALLENGE CUP QUALIFIERS

United Rugby Championship: 1 Glasgow Warriors, 2 Scarlets, 3 Connacht Rugby, 4 Lions, 5 Benetton Rugby, 6 Cardiff Rugby, 7 Dragons, 8 Zebre Parma

TOP 14: 1 RC Toulon, 2 Section Paloise, 3 Stade Français Paris, 4 CA Brive, 5 USAP 6 Aviron Bayonnais

Gallagher Premiership: 1 Wasps, 2 Bristol Bears, 3 Worcester Warriors, 4 Newcastle Falcons, 5 Bath Rugby

Gwahoddwyd: Cheetahs 

EPCR Challenge Cup pool draw tiers

Tier 1: Glasgow Warriors, Scarlets, RC Toulon, Section Paloise, Wasps, Bristol Bears

Tier 2: Connacht Rugby, Lions, Benetton Rugby, Cardiff Rugby, Stade Francais Paris, CA Brive, Worcester Warriors, Newcastle Falcons

Tier 3: Dragons, Zebre Parma, USAP, Aviron Bayonnais, Bath Rugby, Cheetahs