Bydd y Scarlets yn cychwyn ymgyrch Cwpan yr Enfys gan chwarae oddi cartref yn erbyn y Dreigiau ar benwythnos Ebrill 24.
Mae ein gwrthwynebwyr wedi’u henwi am y tair gêm agoriadol am y gystadleuaeth draws ffin gyda dyddiadau a amseri penodol i’w gadarnhau.
Bydd y twrnamaint yn cychwyn gyda thri darbi Cymraeg – gemau cartref yn erbyn y Gweilch a Gleision Caerdydd gan ddilyn y gêm gyntaf yn erbyn y Dreigiau.
Bydd y gemau darbi yn cael eu dilyn gan gemau draws-hemisffer pan fydd timau Guinness PRO14 yn chwarae yn erbyn Vodacom Bulls, the Emirates Lions, Cell C Sharks a DHL Stormers am y tro cyntaf.
Cyn i daith y Llewod cychwyn yn Ne Affrica, mae’r gemau yma am helpu tanio’r gystadleuaeth a fydd yn dechrau yn yr haf pan fydd y Llewod a phencampwyr y byd y Springboks yn mynd benben.
Mae newidiadau i’r amserlen a fformat y Guinness PRO14 Cwpan yr Enfys wedi’i wneud er mwyn lleihau teithio lle mae’n bosib, gyda’r tair rownd gyntaf gan gynnwys y gemau darbi, ar draws Iwerddon, yr Eidal, yr Alban, De Affrica a Chymru.
Bydd rowndiau pedwar i chwech yn gweld y timau De Affrig yn chwarae eu gemau oddi cartref yn Ewrop a fydd y dyddiadau hynny yn cael eu cadarnhau unwaith bydd cyfyngiadau teithio wedi’i gadarnhau gan yr awdurdodau a llywodraethau priodol. Mae’r fformat yma yn golygu ni fydd timau o Ewrop yn teithio i Dde Affrica am gemau Cwpan yr Enfys.
Bydd chwe rownd (wyth gêm pob rownd) yn cymryd lle gyda phob tîm yn cael eu rhestru mewn un tabl gynghrair. Bydd y ddau dîm ar frig y tabl yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn rownd derfynol Guinness PRO14 Cwpan yr Enfys ar Fehefin 19.
Mae’r PRO14 yn trafod gydag ein darlledwyr i benderfynu ar amseroedd cychwyn a fydd yn cael eu cadarnhau mor gynted ag sy’n bosib.
Dywedodd David Jordan, Cyfarwyddwr y Twrnamaint Rygbi PRO14: “Mae pawb yn falch ein bod gallu gwneud trefniadau pendant ynglŷn â’r calendr rygbi yn dilyn cyfnod ansicr iawn. Mae trefnu cystadleuaeth traws-hemisffer wedi profi’n heriol iawn ond rydym yn credu ein bod wedi darganfod ffordd sy’n ddiogel ac yn ymarferol i gynnal cystadleuaeth unigryw bydd cefnogwyr yn edrych ymlaen at ei weld.
“Trwy gydol y tymor Guinness PRO14 rydym wedi trafod gydag ein hundebau a’u llywodraethau i sicrhau ein bod yn cyrraedd y safon sydd wedi’i gosod ar gyfer chwaraeon proffesiynol i allu parhau. Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth hynny, ni fyddai’r gystadleuaeth draws ffin yn gallu mynd yn ei flaen heb y cymorth yna.”
Rownd 1 – Ebrill 24
Ulster v Connacht, Leinster v Munster, Ospreys v Cardiff Blues, Dragons v Scarlets, Benetton v Glasgow, Edinburgh v Zebre, Vodacom Bulls v Emirates Lions, DHL Stormers v Cell C Sharks
Rownd 2 – Mai 8
Connacht v Leinster, Munster v Ulster, Zebre v Benetton, Glasgow v Edinburgh, Cardiff Blues v Dragons, Scarlets v Ospreys.
Mai 1, 2021 (EPCR Penwythnos Rownd Gynderfynol)
DHL Stormers v Vodacom Bulls Cell C Sharks v Emirates Lions
Rownd 3 – Mai 15, 2021
Munster v Connacht, Leinster v Ulster, Benetton v Zebre, Edinburgh v Glasgow Warriors, Scarlets v Cardiff Blues, Dragons v Ospreys
Mai 8, 2021: Vodacom Bulls v Cell C Sharks, Emirates Lions v DHL Stormers
Rownd 4: Penwythnos Mai 29
Rownd 5: Penwythnos Mehefin 5
Rownd 6: Penwythnos Mehefin 12
Rownd Derfynol: Penwythnos Mehefin 19