Scarlets i deithio i Ffrainc ar gyfer gêm agoriadol Cwpan Her

Rob LloydNewyddion

Bydd y Scarlets yn cychwyn eu hymgyrch Cwpan Her 2023-24 yn erbyn y pencampwyr blaenorol o Ffrainc, Castres.

Cadarnheir y rowndiau pwll o’r twrnamaint, gyda’r Scarlets – a gyrrhaeddodd y rownd gynderfynol tymor diwethaf – yn gwynebu’r tîm gwahoddedig o Georgia, Black Lion, pencampwyr y gystadleuaeth ar dair achlysur Clermont Auvergne a chystadleuwyr y URC Caeredin yn mhwll 3.

Bydd tîm Dwayne Peel yn herio Castres yn Stade Pierre-Fabre ar Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 9 (3:15yp amser Prydeinig), ac yn cynnal Black Lion o Georgia ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Gwener, Rhagfyr 15 (8yh) a fydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C.

Yn rownd 3 bydd y Scarlets yn teithio i Ffrainc eto i wynebu’r ochr a wnaethon guro yn rownd yr wyth olaf tymor diwethaf sef Clermont, yn Stade Marcel Michelin ar Ddydd Sadwrn, Ionawr 13.

Caeredin ydy’r ymwelwyr i Barc y Scarlets ar gyfer y bedwaredd rownd ar gyfer gêm nos Wener, a fydd yn cychwyn am 8yh ar S4C.

GEMAU (amseroedd Prydeinig)

Rd 1 – Castres Olympique v Scarlets (Sad, Rhag 9; 15:15, epcrugby.tv)

Rd 2 – Scarlets v Black Lion (Gwe, Rhag 15; 20:00, S4C)

Rd 3 – ASM Clermont Auvergne v Scarlets (Sad, Ion 13; 13:00; Viaplay)

Rd 4 – Scarlets v Caeredin (Gwe, Ian 19; 20:00 S4C)