Bydd y Scarlets yn lansio’u hymgyrch 2023-24 yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT ar dir Dde Affrig pan fyddyn nhw yn herio’r Vodacom Bulls yn Pretoria.
Bydd y rownd gyntaf yn cael ei gynnal yn Loftus Versfeld ar Ddydd Sul, Hydref 22 – penwythnos y rownd gynderfynol o Gwpan Rygbi’r Byd – gyda charfan Dwayne Peel yn teithio i Cape Town i wynebu’r DHL Stormers ar gyfer yr ail rownd.
Ar gyfer y gêm gyntaf ym Mharc y Scarlets, byddwn yn croesawu Caerdydd i Lanelli ar gyfer rownd tri (Dydd Sadwrn, Tachwedd 4) ac i gadw’r thema De Affrig i fynd byddwn yn cynnal Emirates Lions yn Llanelli am y bedwaredd rownd, eto ar nos Sadwrn.
Taith i Ddulyn i herio Leinster yn y bumed rownd cyn dwy ddarbi yn erbyn y Gweilch yn Abertawe a Chaerdydd ym Mharc yr Arfau i gwblhau’r bloc agoriadol o gemau.
Yn dilyn y ddwy rownd o gemau Ewropeaidd, bydd y gemau URC yn dychwelyd ar Ddydd San Steffan yn erbyn y Gweilch (17:15) a’i ddilyn gan gêm Dydd Calan yn erbyn y Dreigiau yng Nghasnewydd.
Bydd rownd 10 yn cymryd lle yn ystod seibiant y Chwe Gwlad gyda’r Scarlets yn cynnal y pencampwyr presennol Munster, wrth i rownd 11 golygu taith i Galway i chwarae Connacht.
Benetton a Glasgow fydd ymwelwyr Parc y Scarlets ym mis Mawrth; bydd y Scarlets yn teithio i Gaeredin yn rownd 14 ac wedyn y Siarcod fydd yn dod i Lanelli wrth i garfan Dwayne Peel chwilio i gopïo’r drefn o dymor diwethaf yn erbyn y tîm o Dde Affrica.
Y Scarlets fydd yn croesawu Ulster yn rownd 16, wedyn taith i Parma i chwarae Zebre cyn cwblhau’r tymor arferol gyda gêm darbi yn erbyn y Dreigiau.
Bydd tocynnau ar gyfer yr holl gemau yma ar gael i’w brynu ym mis Medi.
Gallwch lawrlwytho ein calendr gemau ar eich ffôn trwy fynd i’r ddolen yma HERE
Martin Anayi, United Rugby Championship CEO, said: “The fixture list is the central pillar to the operation of our league and teams and providing certainty to fans, clubs and broadcasters earlier than ever will have a positive impact. Providing a set of fixtures that aims to balance kick-off times which encourage attendance and deliver big broadcast while factoring in the travel necessary to compete in the BKT URC is a monumental task that cannot be underestimated.
“Each year we feel we are learning more and more about how to refine and improve our process and the final fixture list itself and I must express great gratitude to our broadcast partners who have supported so many requests from the league and our clubs. To deliver this fixture list 102 days ahead of kick-off is unprecedented for our league and gives us another target to beat again next year.”
Gemau 2023-24 Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig
Rd 1: Sul Hyd 22 – Vodacom Bulls (OC) 14:00
Rd 2: Sad Hyd 28 – DHL Stormers (OC) 15:00
Rd 3: Sad Tach 4 – Caerdydd (C) 17:15
Rd 4: Sad Tach 11 – Emirates Lions (C) 17:15
Rd 5: Sad Tach 18 – Leinster (OC) 19:35
Rd 6: Sul Tach 26 – Gweilch (OC) 15:00
Rd 7: Sad Rhag 2 – Caerdydd (OC) 15:00
Rd 8: Maw Rhag 26 – Gweilch (C) 17:15
Rd 9: Llun Ion 1 – Dreigiau (OC) 17:15
Rd 10: Gwe Chwe 16 – Munster (C) 17:35
Rd 11: Sad Maw 2 – Connacht (OC) 17:05
Rd 12: Sad Maw 23 – Benetton (C) 15:00
Rd 13: Sad Maw 30 – Glasgow (C) 19:35
Rd 14: Sad Ebr 20 – Caeredin (C) 19:35
Rd 15: Gwe Ebr 26 – Cell C Sharks (C) 19:35
Rd 16: Sad Mai 11 – Ulster (C) 15:05
Rd 17: Gwe, Mai 17 – Zebre Palma (OC) 19:35
Rd 18: Sad, Meh 1 – Dreigiau (C) 15:00