Scarlets i wynebu’r Dreigiau a’r Gweilch mewn gemau datblygedig

Rob Lloyd Newyddion

Mae’r Scarlets yn cadarnhau byddwn yn chwarae dwy gêm ddatblygedig yn ystod ffenest ryngwladol mis Tachwedd.

Bydd y prif hyfforddwr Dwayne Peel yn teithio i Rodney Parade gyda’i garfan ar Ddydd Gwener, Tachwedd 12 (cic gyntaf am 2yp) i wynebu’r Dreigiau cyn cynnal gêm yn erbyn y Gweilch ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Gwener Tachwedd 19 (cic gyntaf am 7yh).

Mae’r gemau wedi’u trefnu er mwyn rhoi cyfleoedd i chwaraewyr y garfan o flaen ailddechrau’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar ddiwedd mis Tachwedd.

Er eich gwybodaeth, dim ond Bisley Stand fydd ar agor ar gyfer y gêm yn erbyn y Dreigiau gyda seddi heb eu cadw ar fynediad ‘first come first served’. Bydd y gatiau’n agor o 1yp. Mynediad cyffredinol i gêm y Dreigiau yw £5 ar gyfer oedolion ac am ddim i blant a’r henoed. Bydd tocynnau ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar-lein o Ddydd Llun, Tachwedd y 1.

Byddwn yn cadarnhau manylion tocynnau ar gyfer y ddwy gêm wythnos nesaf.

Dydd Gwener, Tachwedd 12 (2yp)

Dragons A v Scarlets Development (Rodney Parade)

Dydd Gwener, Tachwedd 19 (7yh)

Scarlets Development v Ospreys A (Parc y Scarlets)