Scarlets v Dreigiau wedi’i ohirio

Rob Lloyd Newyddion

Mae gêm Rownd 10 o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig rhwng Scarlets a’r Dreigiau wedi’i ohirio

Roedd y gêm wedi’i drefnu ar gyfer Dydd Sadwrn, Ionawr 8 yn Llanelli, ond er hyn mae’r Dreigiau wedi cofrestru nifer o ganlyniadau positif o Covid-19 yn eu carfan. Yn dilyn trafodaethau rhwng y rhanbarth â’r Grŵp Meddygol URC, fe ystyriwyd y sefyllfa ac ni all y gêm fynd yn ei flaen fel y trefnwyd.

Bydd y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nawr yn penderfynu ar ddyddiad i aildrefnu’r gêm.