Scarlets yn arwyddo chwaraewr y Crysau Duon Fifita

Rob Lloyd Newyddion

Mae’r Scarlets yn falch i gadarnhau cytuneb chwaraewr y Crysau Duon Vaea Fifita

Bydd y chwaraewr 29 oed, sy’n medru chwarae yn yr ail rheng a’r rheng ôl, yn ymuno â’r clwb o’r tîm uwch gynghrair Gallagher Wasps yn yr haf.

Yn gariwr atheltig, deinameg a cyflym, mae Fifita wedi’i ddysgrifio gan sylwebwyr fel “freak of nature” pan ymddangosodd ar y lwyfan rhyngwladol yn 2017. Hefyd ganddo bresenoldeb cryf yn y llinell ac yn enwog am ei allu i ddwyn y bel o’r gwrthwynebwyr.

Cafodd Fifita ymddangosiad Prawf bythgofiadwt yn erbyn yr Ariannin yn Mhencampwriaeth Rygbi, gan sgori cais unigol arbennig ac aeth ymlaen i wneud 11 o ymddangosiadau yng nghrys Seland Newydd.

Wedi’i eni a’i fagu yn Nhonga, symudodd i Seland Newydd yn ei arddegau ar ysgoloriaeth ac fe aeth ymlaen i serennu yn ei yrfa rygbi i Wellington ac i’r Hurricanes yn Super Rugby, gan ddarparu perfformiad anhygoel yn ystod taith y Llewod yn 2017.

Bydd Fifita yn ymuno â’i gyn chwaraewyr Hurricanes Sam Lousi a Blade Thomson ym Mharc y Scarlets, gyda Fifita a Thomson yn gyn aelodau o garfan buddugol Cane’s Super Rugby yn 2016.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Rydym wedi arwyddo chwaraewr penigamp ac mae hyn yn dangos ein bwriad fel clwb. Mae Vaea yn athletwr da, chwaraewr sy’n serennu gyda sgiliau sy’n siwtio fel rydym am chwarae yn y Scarlets.

“Hefyd yn dod â llawer o brofiad rhynwladol ac o lefel Super Rugby gan ychwanegu at y safon gemau Prawf yn ein ail reng, profiad a fydd yn buddio’r blaenwyr ifanc sydd yn datblygu trwy’r clwb.

“Vaea ydy’r fath o chwaraewr sy’n apelio at gefnogwyr wrth ddod â llawer o gyffro ac mae’n gyffroes iawn i wybod bydd yn gwisgo’r crys Scarlets tymor nesaf. Rwy’n siwr bydd y cefnogwyr yn mwynhau ei weld ar y cae ac yn edrych ymlaen at ei groesawu yn yr haf.”

Dyweodd Vaea Fifita: “Mae fy nheulu methu aros i ymuno â’r gymuned yng Nghymru. Byddaf yn edrych ymlaen at weithio’n galed i gyrraedd y targedau sydd gan y clwb ar gyfer dyfodol disglair.

“Dw i’n hyderus bydd y grwp yma yn gallu llwyddo. Edrychaf ymlaen at gwrdd â phawb am y tro cyntaf ym Mharc y Scarlets.”

Dyweodd rheolwr cyffredinol rygbi y Scarlets Jon Daniels “Mae Vaea yn chwaraewr o safon uchel ac rydym wrth ein bodd ei fod wedi cytuno i ymuno â ni. Yn gynnar iawn yn y broses recriwtio fe ystyriwn ei fod yn bwysig iawn i ffeindio clo sydd ymysg y gorau yn y byd yn ogystal â rhywun bydd yn gallu cefnogi datblygiad rhai o’n chwaraewyr ifanc yn yr ail reng sydd gennym yma. Mae Vaea wedi bod ar dop ein rhestr am amser hir.”