Scarlets yn arwyddo’r bachwr Ifan Phillips ar fenthyciad tymor byr

Ryan Griffiths Newyddion

Mae Scarlets wedi arwyddo bachwr y Gweilch, Ifan Phillips, ar fenthyciad tymor byr fel yswiriant anaf.

Bydd y gwr o Orllewin Cymru, 24 oed, yn cysylltu â’r garfan ym Mharc y Scarlets yr wythnos hon cyn gêm Dydd Sul Guinness PRO14 yn erbyn Southern Kings.

Ar hyn o bryd mae gan y Scarlets Ken Owens a Ryan Elias ar ddyletswydd y Chwe Gwlad gyda Chymru; Mae Dafydd Hughes ar fin colli gweddill y tymor gydag anaf i’w ben-glin, mae Marc Jones ar y cyrion â mater ‘calf’, tra bod Dom Booth yn rhan o garfan dan 20 Cymru.

Yn gap dan 20 oed Cymru, mae Phillips yn fab i gyn-gapten Cymru, Kevin Phillips.