Scarlets yn cadarnhau gemau cyfeillgar

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd Wayne Pivac a’i staff hyfforddi yn cael cyfle i weld patrymau newydd yn eu cyfanrwydd a chwaraewyr newydd mewn gêm gystadleuol mewn dwy gêm gyfeillgar cyn i dymor Guinness PRO14 ddechrau.

Fe fydd y Scarlets yn croesawu Bristol Bears i Barc Caerfyrddin ar ddydd Sadwrn 18fed Awst, cic gyntaf 14:30, cyn wynebu gwrthwynebwyr Cwpan Pencampwyr Ewrop y llynedd Caerfaddon ar y Rec, nos Wener 24ain Awst, cic gyntaf 19:30.

Parc Caerfyrddin bydd yn llwyfannu gêm gyntaf y tymor newydd i’r Scarlets.

Ymunwch â ni am ddiwrnod arbennig i’r teuly oll lee bydd Scarlets yn y Gymuned hefyd yn rhoi cyfle i gefnogwyr ifanc y rhanbarth fwynhau gemau amrywiol.

Fe fyddwch yn gallu talu wrth y giat ar gyfer y gêm yn erbyn Bristol Bears gyda phris mynediad yn £10 i oedolion, £6 i gonsesiwn a phlant dan 16 yn cael mynediad am ddim.

Byddwn yn cyhoeddi manylion teithio ar gyfer y gêm yn erbyn Caerfaddon cyn bo hir.