Scarlets yn cefnogi cynllun i rhoi ail fywyd i esgidiau rygbi

Kieran Lewis Newyddion

Mae cefnogwyr y Scarlets yn cael eu hannog i roi esgidiau rygbi neu bêl-droed diangen i blant yn y gymuned fel rhan o gynllun newydd a sefydlwyd yn Ne Cymru.

Syniad yr hyfforddwr pêl-droed Carl Bradley yw’r ‘Boot Room’, sydd eisoes wedi casglu mwy na 150 o barau ers lansio’r cynllun ym mis Hydref.

Mae Scarlets wedi ymuno â The Boot Room a bydd man casglu arbennig ym Mharc y Scarlets i ollwng unrhyw esgidiau ail-law.

Roedd chwaraewyr y Scarlets yn lansiad heddiw i addo eu cefnogaeth, wrth i ni edrych ymlaen at groesawu tîm y Boot Room i Barc y Scarlets ar gyfer y gêm yng Nghwpan Her Ewrop yn erbyn Bayonne ar Ragfyr 14.

Dywedodd Carl iddo gael ei ysbrydoli i gychwyn The Boot Room ar ôl clywed rhiant yng nghlwb pêl-droed lleol ei fab yn dweud na allai fforddio prynu ei hesgidiau newydd yn fuan.

“Fy nod yw helpu i gadw cymaint o blant â phosib mewn i chwaraeon, boed hynny’n rygbi neu’n bêl-droed,” meddai

“Rydyn ni wedi cael ymateb enfawr i’r cynllun ers iddo gael ei lansio ac rydyn ni wrth ein boddau o gael cefnogaeth y Scarlets.

Os oes angen esgidiau newydd arnoch gallwch gysylltu â Carl trwy dudalen Facebook The Boot Room yma