Scarlets yn croesawu Bradley Davies i’r tîm hyfforddi

Rob LloydFeatured

Fe all y Scarlets cadarnhau eu tîm hyfforddi ar gyfer tymor 2025-26 gan edrych ymlaen at groesawu cyn gapten Cymru Bradley Davies i Barc y Scarlets.

Bydd Davies yn ymuno â Jared Payne, Albert van den Berg a Emyr Phillips fel cynorthwywyr i Dwayne Peel.

Yn enwog am fod yn chwaraewr ail reng pwerus, chwaraeodd Davies 66 gêm Prawf i Gymru ac roedd yn gapten ar ei wlad yn Japan yn 2013. Treuliodd cyfnodau gyda Chaerdydd, Wasps a’r Gweilch cyn ymddeol o chwarae yn 2023.

Yn 38 oed, mae Davies yn ymuno â’r Scarlets o’r Gweilch, lle roedd yn hyfforddwr Academi am y ddwy flynedd diwethaf. Roedd hefyd yn rhan o dîm hyfforddi Bridgend Ravens yn Super Rygbi Cymru ers 2023.

Bydd Davies yn canolbwyntio ar ardal y dacl.

Yn croesawu Davies i’r tîm, dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Brad yn hyfforddwr ifanc ac uchelgeisiol a fydd yn dod a llawer o egni a a frwdfrydedd i’r grwp yn ogystal â’i brofiad ar lefel uchaf y gêm yn ystod ei yrfa chwarae.

“Rydym yn bles iawn gyda’r cynnydd mae’r grwp wedi dangos ar hyd y tymor, gan sicrhau lle yng Nghwpan Pencampwyr a chyrraedd yr wyth olaf o’r URC ac fel tîm hyfforddi rydym yn benderfynol o adeiladu ar y cynnydd yna wrth fynd i mewn i’r haf ac i’r ymgyrch nesaf.

“Ar ôl hyfforddi gyda Academi’r Gweilch, timau gradd oedran a Penybont yn SRC, mae Brad yn awyddus i gymryd y cam nesaf i mewn i’r gêm broffesiynol ac edrychwn ymlaen at ei groesawu i mewn i’r grwp pan fyddwn yn dychwelyd i Barc y Scarlets mis nesaf.”

Dywedodd Bradley Davies: “Mae’n fraint i dderbyn y rôl hyfforddi yma gyda’r Scarlets. Mae’n gyfle arbennig i mi ac yn gyfle dwi am gudio’n dynn.

“I mi, mae hyn y gyfle i mi helpu’r tîm i gyrraedd y lefel nesaf. Dwi hefyd yn cael y cyfle i gydweithio gyda hyfforddwyr anhygoel, cyfle amrhisiadwy yn fy ngyrfa.

“Mae’n wych fel hyfforddwr ifanc Cymraeg i gael clwb fel y Scarlets sydd yn barod i ymddiried ynof a rhoi’r cyfle i mi i dyfu – rwy’n edrych ymlaen at helpu’r Scarlets i ddatblygu i mewn i’r tîm maen nhw eisiau ei fod.

Ychwanegodd Davies: “Hoffwn ddiolch i Academi’r Gweilch, yr hyfforddwyr a fy ffrindiau agos Andrew Bishop, Paul James a James Hook am fy helpu i gyrraedd y pwynt yma yn ogystal a pawb yn Bridgend Raves, cefais dwy flynedd anhygoel yna. Does dim amheuaeth mae’r clwb yn mynd i fod yn bresenoldeb enfawr o fewn rygbi aml-broffesiynol.”

Yn yr Academi, bydd Scott Sneddon, sydd ar hyn o bryd yn rhan o dîm hyfforddi D20 Cymru, yn parhau fel prif hyfforddwr, wedi’i gynorthwo gan Phil John, Tom Phillips a Rhodri Jones. Mae Gareth Williams wedi gadael ei rôl fel Rheolwr yr Academi a dymunwn y gorau iddo gyda’r bennod nesaf.

Bydd Emyr Phillips yn cymryd ymlaen y rôl o Rheolwr yr Academi wrth ochr ei swydd fel hyfforddwr sgrym y garfan hŷn.