Scarlets yn croesawu nôl chwaraewyr rhyngwladol am ddarbi Gorllewin Cymru

Rob LloydNewyddion

Prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel sy’n croesawu nôl nifer o chwaraewyr profiadol i’r garfan ar gyfer gêm darbi Dydd Sul yn erbyn y Gweilch (15:00, Viaplay).

Mae’r tîm i ddechrau ar gyfer y chweched rownd o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT yn dangos wyth newid o’r tîm a chwaraewyd yn Nulyn wythnos diwethaf gyda’r capten Gareth Davies, maswr Ioan Lloyd a seren Tonga Vaea Fifita ymysg y rhai sy’n dychwelyd.

Mae Johnny McNicholl hefyd nôl yng nghrys rhif 15. Tom Rogers sy’n newid i’r asgell dde a Steff Evans sydd yn dod nôl arno i’r asgell chwith.

Joe Roberts sy’n bartner i Johnny Williams yng nghanol cae, wrth i Lloyd a Davies ailymuno fel haneri.

Yn y rheng flaen, chwaraewyr rhyngwladol Cymru Wyn Jones a Ryan Elias sydd yn cychwyn wrth ochr Harri O’Connor. Alex Craig a Jac Price sy’n parhau yn safle’r clo, wrth i Fifita dod i mewn ar yr ochr dywyll yn rheng ôl sydd hefyd yn cynnwys Teddy Leatherbarrow a Carwyn Tuipulotu.

Gyda Samson Lee ar y rhestr anafiadau a Sam Wainwright ddim ar gael am resymau personol, mae’r prop Joe Jones, sydd wedi arwyddo i’r Scarlets o Sale Sharks, wedi’i enwi ymysg yr eilyddion.

Dywedodd Dwayne Peel: “fel chwaraewr, ro’n i’n caru gemau darbi. Y peth cyntaf rydych yn sôn am yw’r tân rhwng y chwaraewyr wrth edrych nôl ar gemau blaenorol. Ni heb ennill gêm yn Abertawe ers sbel, felly mae hynny’n her fawr i ni. Mae yna lawer yn y fantol ac rydym yn edrych ymlaen at yr her o fynd yna.

“Mae’r Gweilch yn dîm anodd i guro. Mae’r pac yn ffyrnig, ac mae’r ochr wedi bod yn fygythiad erioed felly mi fydd hynny yn her bydd rhaid i ni wynebu. Mae gennym steil chwarae ein hun, ac mae ganddyn nhw eu steil nhw, felly bydd hynny’n dda i weld. Mae gemau darbi yn tueddu i gorddi llawer o emosiwn, a steil chwarae gwahanol. Does dim amheuaeth rydym yn mynd yna i ennill, a bydd rhaid i ni chwarae’n dda iawn.”

Tîm Scarlets i chwarae’r Gweilch yn stadiwm swansea.com ar Ddydd Sul, Tachwedd 26 (15:00)

15 Johnny McNIcholl; 14 Tom Rogers, 13 Joe Roberts, 12 Johnny Williams, 11 Steff Evans; 10 Ioan Lloyd, 9 Gareth Davies (capt); 1 Wyn Jones, 2 Ryan Elias, 3 Harri O’Connor, 4 Alex Craig, 5 Jac Price, 6 Vaea Fifita, 7 Teddy Leatherbarrow, 8 Carwyn Tuipulotu.

Eilyddion: 16 Shaun Evans, 17 Steff Thomas, 18 Joe Jones, 19 Morgan Jones, 20 Ben Williams, 21 Kieran Hardy, 22 Charlie Titcombe, 23 Ioan Nicholas.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Kemsley Mathias, Taine Plumtree, Josh Macleod, Dan Davis, Sam Lousi, Ken Owens, Samson Lee, Dan Jones, Sam Costelow, Isaac Young.