Scarlets yn cychwyn y flwyddyn newydd gyda fuddugoliaeth yn erbyn y Dreigiau

Gwenan Newyddion

Dechreuodd y Scarlets 2021 fel gwnaethom gloi 2020, gyda buddugoliaeth ym Mharc y Scarlets.

Ceisiadau gan seren y gêm Sione Kalamafoni ac yr eilydd Sam Costelow, wedi’i gyfuno gyda chiciau Dan Jones wnaeth sicrhau i dîm Glenn Delaney symud i’r ail safle yng nghynhadledd B o’r Guinness PRO14.

Nad oedd yn berfformiad heb wallau, a fyddant yn teimlo’n rhwystredig gyda’r nifer o gamgymeriadau a phroblemau disgyblaeth yn y gêm, ond serch hyn mae’r Scarlets yn parhau gyda’i buddugoliaethau wrth baratoi i wynebu Gleision Caerdydd wythnos nesaf.

Er iddi fod yn noson sych yn Llanelli, roedd y 40 munud cyntaf llawn gwallau gan y ddau ochr a wnaeth achosi gem araf iawn ar y cae.

Roedd gan y Scarlets digon o feddiant ac yn ennill tir yn gyson, ond roedd gwallau pasio yn ei gadael i lawr.

Y Dreigiau enillodd pwyntiau cynta’r gêm gan ddiolch i gyn-scarlet Josh Lewis am ei gic cosb.

Munudau ar ôl y gic, herciodd Jake Ball oddi ar y cae gydag anaf i’w ben-glin, a chafodd ei eilyddio gan Tevita Ratuva, wrth i Wyn Jones ar ei 100fed ymddangosiad i’r clwb adael y cae am asesiad i’w ben.

Gwnaeth pŵer Kalamafoni creu cyfle i’r Scarlets wrth iddo redeg lawr canol y cae, ond wnaeth y cyfle cael ei golli unwaith eto.

Erbyn y 29ain munud, llwyddodd Dan Jones i lefelu’r sgôr a gyda chymorth Kieran Hardy llwyddodd gic cosb arall cyn chwiban hanner amser.

Parhaodd y Scarlets i wella’i pherfformiad yn yr ail hanner, er iddynt aros nes 57 munud i sgori gais cynta’r gêm.

Yn dilyn mwy o bwysau rhwng y ddau dîm, cafodd clo’r Dreigiau Matthew Screech cerdyn melyn gan y dyfarnwr Nigel Owens am gymryd allan Gareth Davies oddi’r bêl.

Penderfynodd y Scarlets i fynd am y cornel yn hytrach na’r pyst, ac fe welwyd Kalamafoni yn croesi’r llinell am y tro cyntaf yn lliwiau’r Scarlets, a’r trosiad gan Jones.

A chyn-scarlet Rhodri Williams yn ychwanegu sbarc i’r gêm, roedd y Dreigiau yn disgwyl am gyfle i ymateb ond Ratuva yn llwyddo i ennill mantais ac yn atal y bygythiad.

Yn chwarae olaf y gêm, cafodd yr eilydd Sam Costelow gyfle i ffeindio bwlch a rhedeg rhwng ei wrthwynebwyr i sgori gais arbennig, gyda’r maswr yn cicio’r trosiad hefyd.

Scarlets – ceisiadau: S. Kalamafoni, S. Costelow. Tros: D. Jones (2). Ciciau cosb: Jones, Costelow

Dreigiau – ciciau cosb: J. Lewis