Scarlets yn cyhoeddi’r tîm hyfforddi am 2023-24

Rob Lloyd Newyddion

Fe all Scarlets cadarnhau’r garfan hyfforddi ar gyfer tymor 2023-24.

Cyn-clo y Sbringbocs Albert van den Berg yw hyfforddwr newydd y blaenwyr a fydd yn cymryd lle Ben Franks sydd wedi dychwelyd i Seland Newydd.

Cyn chwaraewr i’r Llewod ac Iwerddon Jared Payne sydd wedi’i apwyntio fel hyfforddwr cynorthwyol yr olwyr ac ymosod, ac yn ychwanegiad arall i’r garfan hyfforddi, mae Shane Carney o Ulster wedi’i apwyntio fel ein Pennaeth o Berfformiad Athletaidd newydd.

Wedi’i adnabod fel un o hyfforddwyr adnabyddus y blaenwyr yn rygbi De Affrig, mae van den Berg wedi gweithio gyda’r Emirates Lions ers 2021. Wedi’i gapio 51 o weithiau i’r Springboks, mae’r cyn-chwaraewr ail reng wedi cychwyn ei yrfa hyfforddi gyda charfan Academi’r Sharks, a gweithio’i ffordd i fyny at rôl hyfforddwr cynorthwyol gyda’i gyn clwb the Canon Eagles yn Japan cyn ei gyfnod llwyddiannus gyda’r Griquas yng Nghwpan Currie.

Mewn gyrfa chwarae ddisglair, dechreuodd Payne, a aned yn Seland Newydd, yn Waikato a chwarae i’r Chiefs, Crusaders a’r Blues yn Super Rugby cyn ymuno ag Ulster yn 2011. Chwaraeodd 20 o weithiau i Iwerddon a theithio Seland Newydd gyda’r Llewod yn 2017. Ar ôl ymddeol o rygbi oherwydd anaf yn 2018, penodwyd yn Hyfforddwr Amddiffyn Ulster, lle’r oedd yn rhan o dîm hyfforddi oedd yn cynnwys Prif Hyfforddwr presennol y Scarlets, Dwayne Peel. Ymunodd Payne â Clermont Auvergne ar ddechrau’r tymor fel rheolwr amddiffyn tîm Ffrainc.

Mae Carney ar hyn o bryd yn hyfforddwr Perfformiad Athletaidd ac Adnewyddu i Ulster, lle’r oedd hefyd wedi cydweithio â Peel. Yn flaenorol roedd yn bennaeth Cryfder a Chyflyru yn Hull Kingston Rovers sef tîm rygbi’r gynghrair.

Bydd Van den Berg, Payne a Carney yn ymuno â Peel (Prif Hyfforddwr), Gareth Williams (Amddiffyn) ac Emyr Phillips (Sgiliau a Sgrym) yn y garfan hyfforddi.

Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Albert, Jared a Shane yn aelodau cyffroes newydd o’r garfan hyfforddi ac edrychwn ymlaen at eu croesawu i Barc y Scarlets dros yr haf.

“Dwi’n nabod Jared a Shane yn dda o fy amser gydag Ulster. Cydweithiais gyda Jared am dair blynedd ac mae’n hyfforddwr uchel ei barch a fydd yn wych i’n chwaraewyr, yn enwedig y rhai ifanc yma. Mae Shane, sydd hefyd yn hyfforddwr uchel ei barch, gyda llygad am fanylder.

“Mae gan Albert llawer o brofiad o’i amser yn Japan a De Affrica. Ganddo lawer o brofiad fel chwaraewr ar ôl chwarae dros 50 Prawf i’r Springboks ac wedi haeddu enw fel un o’r hyfforddwyr blaenaf yn Ne Affrica.

“Hoffwn ddiolch i Ben Franks am ei holl waith i’r Scarlets. Mae Franksy wedi bod yn ddylanwad da yn creu diwylliant yma yn y clwb a hefyd wedi datblygu grŵp o flaenwyr ifanc rydym yn edrych ymlaen at weld. Dymunwn bob lwc iddo gyda’r bennod nesaf o’i yrfa nôl yn Seland Newydd.”