Scarlets yn datgelu cit oddi cartref 2023-24

GwenanNewyddion

Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi ei cit oddi cartef am dymor 2023-24 heddiwm gyda dyluniad o fap y rhanbarth a chyflwyno lliwiau newydd i’r cit am y tymor.

Mae’r crys gwydd, a dyluniwyd gan Castore, wedi’i ysbrydoli gan arfordir prydferth De Cymru a’r hen Sir Dyfed. Mae’r cit oddi cartref newydd yn cynrychioli’r rhanbarth, sef cartref y Scarlets – ac mae’r cit ar gael i’w brynu yn siop Parc y Scarlets ac ar-lein nawr.

Bydd ein prif noddwr Olew dros Gymru yn parhau ar flaen y crys, gyda Owens Group, Gravells, Taylor Facilities, Lloyd & Gravell, LBS Builders Merchant, LHP Accountants, Ascona Group, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, TAD Builders, Castell Howell, HST Marine, Dyfed Steel, Pencnwc Holiday Park, CK Foodstores, Enzo Homes a Choleg Sir Gâr hefyd yn dangos eu logo ar y cit.

Diolch enfawr i bob un o’n partneriaid cit am eu cefnogaeth barhaus.

Mae cit cartref a chit ymarfer y Scarlets ar gyfer y tymor i ddod yn barod wedi lansio.