Mae’r Scarlets wedi cytuno ar bartneriaeth fawr gyda FSG o dde Cymru sydd ar fin dyrchafu’r Arena Hyfforddi a Phentref y Cefnogwyr ym Mharc y Scarlets.
Mae darparwr gwasanaethau rheoli cyfleusterau lleol FSG yw noddwr newydd Arena Hyfforddi Parc y Scarlets, a fydd bellach yn dod yn Arena FSG a Phentref Cefnogwyr FSG ar ddiwrnodau gêm.
Roedd y bartneriaeth hon yn drawsnewidiad naturiol i’r clwb ac FSG yn dilyn perthynas gryf rhwng y ddau sefydliad. Mae FSG yn rheoli’r gwaith cynnal a chadw gwasanaethau mecanyddol ar gyfer Parc y Scarlets ac yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y cyfleuster yn rhedeg yn effeithiol i gefnogwyr a’r gymuned leol.
Wrth sôn am y bartneriaeth, dywedodd Gyfarwyddwr FSG, Geraint Davies: “Rydym mor falch o ddod yn noddwyr swyddogol Arena Hyfforddi Parc y Scarlets ac rydym hyd yn oed yn fwy balch o’r cydweithio hwn gan wybod bod cymaint o’n cwsmeriaid a thîm FSG yn gefnogwyr enfawr o’r Scarlets.
“Rydym yn angerddol am gefnogi’r cymunedau rydym yn rhan ohonynt yn FSG ac mae’r ymrwymiad hwn yn un ffordd o roi yn ôl wrth i ni helpu i sicrhau cynigion cymunedol y clwb yn yr Arena Hyfforddi. Edrychwn ymlaen at ymwreiddio ymhellach yn y clwb wrth i’n partneriaeth barhau i fynd o nerth i nerth dros y tair blynedd nesaf.”
Dywedodd Garan Evans, Pennaeth Masnachol Rygbi’r Scarlets: “Mae’r bartneriaeth hon yn nodi moment arwyddocaol i ni ym Mharc y Scarlets wrth i ni edrych ar ffyrdd o wella profiadau ein cefnogwyr.
“Roedd dod o hyd i’r partner cywir ar gyfer ein Arena Hyfforddi yn gamp fawr. Roedd alinio busnes â’n hangerdd dros y clwb a’n cymuned yn hanfodol ac rydym yn falch o gael busnes lleol FSG yn rhan ohono. Mae’n fwy nag enw ar ochr yr adeilad yn unig. Gyda chefnogaeth FSG gallwn barhau i redeg ein gweithgareddau diwrnod gêm, yn ogystal â’r mentrau cymunedol parhaus sy’n digwydd yn yr Arena o’n gwersylloedd rygbi i ddigwyddiadau cymunedol.
“Mae FSG yn darparu gwasanaeth anhygoel i ni fel clwb ac wedi sicrhau bod y stadiwm a’r arena’n gallu gweithio’n effeithiol i’n cefnogwyr. Gobeithiwn y bydd ein cefnogwyr yn ymuno â ni i groesawu FSG i deulu’r Scarlets.”
Mwy o wybodaeeth ar wefan FSG: www.fsgfm.co.uk
Yn y llun mae Pennaeth Masnachol y Scarlets Garan Evans a Chyfarwyddwr FSG Geraint Davies