Y Scarlets sy’n galw ar bum chwaraewr rhyngwladol ar gyfer y gêm gynderfynol Cwpan Her ar Ddydd Sadwrn yn erbyn Glasgow Warriors ym Mharc y Scarlets (17:30; S4C & BT Sport).
Mae Johnny McNicholl, Gareth Davies, Wyn Jones, Sam Lousi ac Aaron Shingler nôl yn y tîm i gychwyn ar gyfer gêm gyntaf gynderfynol y Scarlets ar dir cartref.
Gyda’r dorf yn agos at gyrraedd 13,000 mae’n addo i fod yn achlysur mawr yn Llanelli i Dwayne Peel a’i dîm.
McNicholl sy’n cychwyn fel cefnwr, gyda Steff Evans a Ryan Conbeer yn cwblhau’r tri ôl. Johnny Williams a Joe Roberts sy’n parhau yng nghanol cae, wrth i Gareth Davies dychwelyd i grys rhif naw fel partner i Sam Costelow.
Yn y rheng flaen, mae prop Cymru a’r Llewod Wyn Jones yn cychwyn fel pen rhydd ac yn ymuno â Ken Owens a phrop yr Alban Javan Sebastian.
Ar ôl eistedd mas y ddwy gêm ddiwethaf, mae Sam Lousi wedi’i enwi yn yr ail reng wrth ochr Morgan Jones.
Newidiadau i ddangos yn y rheng ôl. Josh Macleod sydd yn arwain o’r ochr dywyll, Vaea Fifita fydd yn cychwyn fel wythwr am y tro cyntaf y tymor yma, wrth i Dan Davis wneud ei ymddangosiad cyntaf ar ôl dychwelyd o anaf.
Nad yw Aaron Shingler wedi gwella o anaf i’w gefn felly mae Iestyn Rees wedi’i enwi fel eilydd i wneud ei ymddangosiad Ewropeaidd gyntaf oddi’r fainc.
Dywedodd Peel: “Mae rhaid i ni fentro i ennill yn gemau cynderfynol, nid dibynnu ar fod ar y blaen. Rhaid i ni drial fynd a chwarae a dyna beth fyddai yn annog y chwaraewyr i wneud. Rwy’n siŵr mi fydd hi’n achlysur gwych gyda thorf dda, felly bydd hynny’n grêt iddyn nhw.”
Tîm Scarlets i chwarae Glasgow Warriors yn y rownd gynderfynol o Gwpan Her EPCR ar Ddydd Sadwrn, Ebrill 29 (17:30 S4C & ITV)
15 Johnny McNicholl; 14 Steff Evans, 13 Joe Roberts, 12 Johnny Williams, 11 Ryan Conbeer; 10 Sam Costelow 9 Gareth Davies; 1 Wyn Jones, 2 Ken Owens, 3 Javan Sebastian, 4 Morgan Jones, 5 Sam Lousi, 6 Josh Macleod (capt), 7 Dan Davis, 8 Vaea Fifita.
Eilyddion: 16 Shaun Evans, 17 Kemsley Mathias, 18 Sam Wainwright, 19 Carwyn Tuipulotu, 20 Iestyn Rees, 21 Kieran Hardy, 22 Dan Jones, 23 Ioan Nicholas.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Aaron Shingler, Sione Kalamafoni, Tom Price, Jac Price, Jonathan Davies, Scott Williams, Samson Lee, Ryan Elias,, Callum Williams, Ben Williams, Taylor Davies.