Mae’r Scarlets yn cychwyn eu hymgyrch Cwpan Her EPCR yn erbyn Aviron Bayonnais yn Ne Ffrainc ar Ddydd Sadwrn (13:00) gyda’r chwaraewr rhyngwladol Alex Craig yn arwain y Scarlets fel capten.
Mae Craig yn arwain ochr sy’n dangos 10 newid i’r tîm a gollwyd penwythnos diwethaf i Glasgow Warriors yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Tu ôl i’r sgrym, Ioan Nicholas, Ellis Mee ac Ioan Lloyd ydy’r unig chwaraewyr i barhau yn dilyn y golled yn Scotstoun.
Bydd Nicholas yn rhedeg allan am ei 100fed ymddangosiad ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb fel chwaraewr 17 oed yn 2015.
Yn ymuno â’r cefnwr mae’r chwaraewr rhyngwladol Tom Rogers sydd wedi gwella o’i anaf, a Mee yn y tri ôl.
Bydd y canolwr Joe Roberts yn ymddangos am y tro cyntaf ar ôl gwella o anaf i’w ben-glin. Bydd Roberts yn bartner iddo’i chydchwaraewr rhyngwladol Eddie James yng nghanol cae.
Nid yw’r mewnwr profiadol Gareth Davies ar gael ar gyfer y gêm oherwydd mân anaf i’w glun felly bydd Efan Jones yn gwneud ei ddechreuad cyntaf o’r tymor yng nghrys rhif naw.
Yn y pac mae rheng flaen newydd o Kemsley Mathias, Shaun Evans a Sam Wainwright. Gyda’r bachwyr Ryan Elias a Marnus van der Merwe wedi’u hanafu, Evans fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf o’r tymor.
Craig fydd yn cydweithio gyda Jac Price yn yr ail reng, wrth i Jarrod Taylor dod i mewn i’r rheng ôl wrth ochr Dan Davis a Vaea Fifita.
Ymysg yr eilyddion mae’r chwaraewr newydd, y prop pen tynn Archer Holz, a fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets yn ogystal â blaenwyr Academi Hŷn y Scarlets Sam O’Connor ac Isaac Young, a fydd yn gwneud ei ymddangosiad Ewropeaidd cyntaf o’r fainc.
Y mewnwr 21 oed Archie Hughes sydd wedi gwella o anaf i’w bigwrn a hefyd wedi’i enwi yn y garfan o 23 dyn.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Rydym yn herio ochr sydd wedi perfformio’n dda yn y Top1, ond mae rhaid i ni edrych ymlaen at yr her yn Ffrainc a mwynhau’r cyfle o chwarae o flaen torf swnllyd Ffrengig.
“Dau dymor yn ôl, fe aethon ni ymlaen i gyrraedd y rownd gynderfynol yn y gystadleuaeth ac roedd hynny’n wych i’r clwb. Yn draddodiadol rydym yn dîm sydd yn mwynhau Ewrop, mae gyda ni’r ansawdd yn y garfan sydd yn galluogi i ni gyfnewid a dal i fod yn gystadleuol ac i ni eisiau bod yn y gemau mawr hynny. Mi fydd y grŵp yma’n heriol dros ben yn erbyn timau arbennig, ond rydym yn hyderus yn ein hunain hefyd.”
Tîm y Scarlets i chwarae Aviron Bayonnais yn Stade Jean Dauger ar Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 7 (1.00pm amser DU; epcrTV)
15 Ioan Nicholas; 14 Tom Rogers, 13 Joe Roberts, 12 Eddie James, 11 Ellis Mee; 10 Ioan Lloyd, 9 Efan Jones; 1 Kemsley Mathias, 2 Shaun Evans, 3 Sam Wainwright, 4 Alex Craig (capt), 5 Jac Price, 6 Jarrod Taylor, 7, Dan Davis, 8 Vaea Fifita.
Eilyddion: 16 Isaac Young, 17 Sam O’Connor, 18 Archer Holz, 19 Sam Lousi, 20 Max Douglas, 21 Archie Hughes, 22 Charlie Titcombe, 23 Macs Page.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Marnus van der Merwe, Gareth Davies, Sam Costelow, Blair Murray, Tomi Lewis, Steff Evans, Harri O’Connor, Josh Morse.