Mae Vaea Fifita yn dychwelyd o anaf wrth i’r Scarlets ailddechrau gemau’r bencampwriaeth i herio’r pencampwyr presennol Glasgow Warriors yn Stadiwm Scotstoun ar nos Wener (19:35; Premier Sports & BBC Wales).
Nid yw Fifita wedi chwarae ers y gêm agoriadol yn erbyn Benetton ac wedi’i enwi fel un o sawl newid gan Dwayne Peel yn y tîm i gychwyn am y seithfed rownd.
Ioan Nicholas sydd yn cychwyn fel cefnwr, Ellis Mee sydd yn dod i mewn ar yr asgell am ei ail ymddangosiad yn y URC a Blair Murray – nôl o’i ddyletswydd ryngwladol – sydd wedi’i enwi ar yr asgell chwith. Nid yw Tom Rogers ar gael oherwydd anaf a gafodd yn ystod gêm Cymru.
Yng nghanol cae, Johnny Williams sydd yn cyfuno â Macs Page; Ioan Lloyd sydd yn gwisgo crys rhif 10 eto a Gareth Davies sydd i ddechrau fel mewnwr am y seithfed tro yn olynol.
Alec Hepburn, Marnus van der Merwe a Henry Thomas sydd wedi’u henwi yn y rheng flaen. Dan Davis ar yr ochr agored, wrth i’r capten Josh Macleod newid i’r ochr dywyll a Fifita wedi’i enwi fel wythwr.
Kemsley Mathias, Ryan Elias, Alex Craig, Taine Plumtree ac Eddie James, i gyd wedi ymddangos yng Nghyfres yr Hydref wedi’u henwi ar y fainc, yn ogystal â Sam Wainwright, Efan Jones a Charlie Titcombe, sydd wedi creu argraff yng ngêm Cwins Caerfyrddin yn Super Rygbi Cymru penwythnos diwethaf.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae Glasgow yn dîm gyda llawer o egni a llawer o gyflymder a rhaid disgwyl yr annisgwyl wrthyn nhw. Mi fydd her o’n blaenau, ond rydym yn edrych ymlaen at hynny, i fynd a gweld ein potensial, i fynd erbyn y pencampwyr. Rydym wedi sôn am ddefnyddio’r cyfle yma a defnyddio’n egni i roi ein gorau glas.
“Teimlaf ein bod wedi defnyddio’r mis diwethaf yn dda, mae’r bois wedi ymdrechu, wedi gweithio’n galed ac yn barod am bloc arall o gemau gyda’r gemau Ewrop i ddod a chwpl o gemau darbi.”
Tîm y Scarlets i chwarae Glasgow Warriors yn Stadiwm Scotstoun ar Ddydd Gwener, Tachwedd 29 (7.35pm; Premier Sports & BBC Wales)
15 Ioan Nicholas; 14 Ellis Mee, 13 Macs Page, 12 Johnny Williams, 11 Blair Murray; 10 Ioan Lloyd, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Marnus van der Merwe, 3 Henry Thomas, 4 Max Douglas, 5 Sam Lousi, 6 Josh Macleod (capt), 7, Dan Davis, 8 Vaea Fifita.
Eilyddion: 16 Ryan Elias. 17 Kemsley Mathias, 18 Sam Wainwright, 19 Alex Craig, 20 Taine Plumtree, 21 Efan Jones, 22 Charlie Titcombe, 23 Eddie James.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Sam Costelow, Tom Rogers, Tomi Lewis, Steff Evans, Joe Roberts, Shaun Evans, Harri O’Connor, Archie Hughes, Josh Morse.