Scarlets fly out of south africa

Scarlets yn hedfan mas o Dde Affrica

Aadil Mukhtar Newyddion

Fe all Scarlets cadarnhau bod y garfan a staff ar hyn o bryd yn teithio o Dde Affrica i Ewrop.

O ganlyniad y straen Omicron Covid-19 yn Ne Affrica a’r wlad yn cael ei gyhoeddi ar rhestr goch teithio y DU fe gafodd gemau rownd chwech a saith o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Cell C Sharks a’r Vodacom Bulls eu gohirio ar brynhawn Dydd Gwener.

Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ac Undeb Rygbi Cymru dros y dyddiau diwethaf a hoffwn ddiolch i awdurdodau De Affrig am eu cymorth trwy trefnu ein dychweliad i Ewrop.

Hoffir y Scarlets hefyd ddiolch rheolwyr a staff yng ngwesty Capital Pearls yn Umhlanga, Durban am eu dealltwriaeth yn ystod y dyddiau diwethaf yn enwedig Kubaan, sydd wedi ein gofalu ac ein swyddog cyswllt Bert, sydd hefyd wedi helpu cynorthwyo’r grwp.

Mae’r garfan, sydd wedi teithio o Durban i Cape Town ar Ddydd Sadwrn, i gyd yn iach ac mewn hwyliau da gan ddilyn protocolau Covid.