Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr y Scarlets, wedi siarad heddiw xyn gêm agoriadol Guinness PRO14 yn erbyn Ulster penwythnos yma ac mae’n edrych ymlaen i’r her er gwaetha’r anafiiadau sydd yn y garfan.
Fe fydd y Scarlets heb 14 chwaraewr ar gyfer y rownd agoriadol wrth i’r tîm deithio i Ogledd Iwerddon.
Wrth edrych ymlaen at y gêm yng nghynhadledd y wasg bore yma (Mawrth 24ain Awst) dywedodd Pivac; “Mae’n mynd if od yn her dda, maent mwy na thebyg mewn sefyllfa debyg i ni. Does neb yn disgwyl rygbi perffaith yn y rownd agoriadol.
“Dy’n ni ddim yn disgwyl bod ar ein goray yn y rowndiau agoriadol. Mae’n rhaid amseru’r pethau yma’n iawn a gyda’r anafiadau sy’n ein wynebu ry’n ni’n disgwyl i ni gryfhau wrth i ni fynd i mewn i’r tymor.”
Chwaraewyr y Scarlets sydd ddim ar gael ar gyfer gêm prynhawn Sadwrn yn erbyn Ulster;
Paul Asquith – bola coes (calf)
Jake Ball – bicep tendon
Will Boyde – ysgwydd
Angus O’Brien – llaw
Uzair Cassiem – sgan i’w goes heddiw
Dylan Evans – ysgwydd
Jonathan Evans – troed
Leigh Halfpenny – gafl
Wyn Jones – bola coes (calf)
Samson Lee – boch
Johnny McNicholl – boch
Hadleigh Parkes – bys
Lewis Rawlins – ysgwydd
Aaron Shingler – penlin
Dioddefodd Samson Lee, Uzair Cassiem a Leigh Halfpenny anafiadau nos Wener yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Caerfaddon.
Mae disgwyl i Paul Asquith, Jake Ball, Will Boyde, Dylan Evans, Leigh Halfpenny, Samson Lee, Johnny McNicholl, Hadleigh Parkes a Lewis Rawlins ddychwelyd ym mis agoriadol y tymor.
Cafodd Lee lawdriniaeth i rhoi plat yn ei foch. Fe fydd Cassiem yn debryn sgan ar ei goes heddiw ac ni fydd Halfpenny ar gael penwythnos yma oherwydd anaf i’w afl.