Scarlets yn lansio ‘Llyfr Agored’ i gefnogi ymgynghoriad WRU

Rob LloydFeatured

Mewn ymateb i drafodaethau parhaus gyda’i randdeiliaid, clybiau cymunedol, cefnogwyr, noddwyr a phartneriaid, mae’r Scarlets wedi lansio ‘Llyfr Agored’ ar ei wefan.

Mae’r dudalen hon wedi’i greu i alluogi pawb sy’n gysylltiedig â’r clwb a rhanbarth rygbi ledled Gorllewin Cymru a thu hwnt i rannu eu llais fel rhan o ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru ar ddyfodol y gêm broffesiynol yng Nghymru.

Cliciwch YMA i adael eich barn ar ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru. 

Ar hyn o bryd, mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a fydd yn llunio dyfodol y clwb ac mae’n hanfodol bod lleisiau’r rhai sy’n poeni fwyaf am y Scarlets yn cael eu clywed yn glir.

Mae’r Scarlets eisiau sicrhau bod darlun cyflawn o bob cwr o’i gymuned yn cael ei gynrychioli a bod gan bob llais y cyfle i gael ei glywed.

Mae’r Scarlets yn angori rygbi elitaidd, datblygu talent, hunaniaeth ddiwylliannol a thwf economaidd ledled Gorllewin Cymru gyda chalon rygbi balch, hanes cyfoethog a phwrpas clir.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn credu nad yw’r system rygbi elitaidd presennol yng Nghymru bellach yn cyflawni ei hamcanion. Mae eu hymgynghoriad yn cynnig newid i’r strwythur proffesiynol i lawr i ddau glwb.

Bydd yr holl gyfraniadau yn cael eu casglu a’u hanfon ymlaen at Undeb Rygbi Cymru fel rhan o’r cyfnod ymgynghori sy’n dod i ben ar 26 Medi, 2025.

Mae gan y Scarlets hanes, treftadaeth, effaith ddiwylliannol a brand heb eu hail sy’n para 153 mlynedd. Bob tymor mae’r clwb yn cyfrannu’n sylweddol at y gêm ryngwladol ac yn cario baner Cymru yn falch yn Ewrop. Y Scarlets yw’r unig glwb o Gymru sy’n cystadlu yng Nghwpan Pencampwyr Investec yn nhymor 2025-26.

Yn fwy nag dim ond tîm proffesiynol, mae’r Scarlets yn glwb perfformiad uchel brofedig, yn ddarparwr cymunedol pwysig, ac yn ased economaidd drwy gydol y flwyddyn trwy ei stadiwm a’i gyfleuster cymunedol o’r radd flaenaf, Parc y Scarlets.