Scarlets yn lansio partneriaeth newydd gyda charfannau Tarian Dewar

Rob Lloyd Newyddion, Newyddion yr Academi

Mae Academi’r Scarlets wedi dechrau partneriaeth newydd gyda charfannau’r Tarian Dewar o flaen yr ymgyrch newydd.

Bydd y menter, a fydd yn rhedeg dros 10 wythnos, yn cynnwys ysgolion Ceredigion, Sir Benfro, Caerfyrddin, Mynydd Mawr a Dinefwr ac Ysgolion Llanelli (o dan 15/16) a fydd yn mynychu sesiynau hyfforddi a datblygiad hyfforddwyr ym Mharc y Scarlets.

Y bwriad yw i ddatblygu partneriaeth gyda pob sefydliad ysgol yn Nharian Dewar a chryfhau llwybr rygbi’r rhanbarth trwy cefnogi datblygiad sgil, addysg i hyfforddwyr a chodi ymwybyddiaeth rygbi i rhieni.

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal gan hyfforddwr Academi’r Scarlets gan gynnwys mewnwelediad i’r cryfder a chyflyru, meddygol a dadansoddiad yn y gêm, a fydd yn cael eu ddarparu gan y Scarlets.

Esboniodd hyfforddwr sgiliau’r Academi Paul Fisher: “Anelwn i roi cyfle CPD i bob hyfforddwr Tarian Dewar a swyddogion hwb ym mhob ysgol gyda darparu sesiwn rygbi sy’n ffocysu ar sgiliau priodol i’r galw yn y gêm fodern.

“Edrychwn ymlaen yn fawr at y cyfle yma ac rydym yn gobeithio bydd yn helpu datblygu ansawdd hyfforddwyr a chodi ansawdd y chwarae yng ngharfannau ysgolion, a chlybiau ar draws y rhanbarth.

“Rydym yn frwdrydig iawn i hybu ‘Ffordd y Scarlets'”.