Scarlets yn parhau i yrru partneriaeth gyda Gravells

TomNewyddion

Mae’r cwmni gwerthu ceir o Orllewin Cymru, Gravells, sy’n gefnogwyr hirdymor o’r Scarlets, wedi ymestyn ei bartneriaeth gyda’r clwb.

Gravells yw partner cerbydau swyddogol y Scarlets ac hefyd yn bartneriaid cit, gyda logo Gravells wedi’i addurno ar flaen crysau cartref ac oddi cartref y tîm.

Wedi’i sefydlu yng Nghydweli yn 1932 gan Tom Gravell MBE, cwmni Gravells ydy’r delwriaeth hynaf o geir Renault yn y Deyrnas Unedig. Yn 2007, fe ychwanegwyd ceir Kia i’r busnes yng Nghydweli, ac erbyn heddiw mae ganddyn nhw garej yn Arberth, Abertawe, Penybont, Abergyfeni a Hereford.

Yn ogystal â cheir Renault a Kia, mae Gravells hefyd yn gwerthu ceir Dacia yn Nghydweli.

Yn rhan hanfodol o’r gymuned, mae Gravells yn cefnogi nifer fawr o glybiau chwaraeon lleol, elusennau a chorau ac wedi sefydlu partneriaeth gyda’r Urdd dros y ddegawd diwethaf.

Fel rhan o’i bartneriaeth gyda’r Scarlets, mae Gravells wedi darparu tri fan Renault newydd o flaen tymor 2023-24.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gravells Jonathan Gravell: “Rydym wrth ein bodd i ymestyn ein partneriaeth am bum mlynedd arall gyda’r fan cit a chriw. Mae Gravells yn falch iawn i fod yn gefnogwyr o’r Scarlets am dros 25.”

Dywedodd Rheolwr Masnachol y Scarlets Garan Evans: “Mae fan y Scarlets yn olwg cyfarwydd ar draws y rhanbarth, pe bai ein bod ni’n ymweld ag ysgolion a chlybiau gyda’n tîm cymunedol neu yn mynychu gemau oddi cartref gyda’n rheolwr cit.

“Mae Gravells wedi ffurfio partneriaeth hirdymor gyda’r Scarlets, nid yn unig trwy eu cerbydau ond hefyd fel partneriaid cit. Mae’r cwmni yn rhannu’r un egwyddorion cymunedol â’r Scarlets ac rydym yn hapus iawn i weld cwmni o Orllewin Cymru yn parhau’r bartneriaeth am bum mlynedd arall. Edrychwn ymlaen at groesawu’r tîm i Barc y Scarlets yn y tymor newydd.”