Scarlets yn ymestyn y bartneriaeth gyda Taylor Facilities Management

Rob LloydNewyddion

Mae Scarlets yn falch i gyhoeddi ymestyniad ar bartneriaeth masnachol gyda Taylor Facilities Management.

Wedi’i leoli yn Llanelli, mae Taylor FM yn un o gwmnïau rheoli cyfleusterau llewyrchus y DU ac wedi noddi’r Scarlets ers dechrau’r tymor.

Mae logo’r cwmni yn ymddangos ar siorts chwarae’r tîm am 2021-22, ac hefyd yn noddi chwaraewr ail reng Tonga Sam Lousi a’r chwaraewr rheng ôl i’r Alban Blade Thomson.

Dywedodd sefydlwr a Phrif Swyddog Gweithredol y cwmni: “Mae’r diddordeb yn chwaraeon wastod wedi bod yn y busnes, yn enwedig rygbi a pryd bynnag rydym wedi dod i Barc y Scarlets mae yna croeso cynnes i ni.

“Mae’n glir ein bod yn rhannu’r un gwerthoedd â Scarlets, gyda’r gymuned yn bwysig iawn i ni. Mae hefyd yn fraint i fod yn gysylltiedig â brand hanesyddol Cymraeg.”

Mae Taylor FM yn teilwra eu gwasanaeth i weddu i unrhyw lefel o ofynion, o adeiladau unigol i gadwyni cenedlaethol.

Gyda thîm o arbenigwyr cymwys, mae’r cwmni’n darparu ystod eang o wasanaethau o lanhau a chynnal a chadw cyffredinol i adnewyddu adeiladau a choedwigaeth gymhleth.

Dywedodd Pennaeth Masnachol Scarlets James Bibby: “Mae’n wych i gael Peter, Ryan a’r tîm yn rhan o deulu masnachol y Scarlets tymor yma. Mae hefyd yn wych i weld un o’n cyn chwaraewyr Jack Payne yn rhan o’r tîm.

“Mae Taylor FM yn gwmni gydag uchelgeisiol gyda gwerthoedd craidd teulu a chymuned sydd wedi cael ei greu ar adeiladu perthnasoedd cryf, yn debyg iawn i ni ein hunain.

“Mae’n wych eu gweld wedi’u lleoli yma yn y Parc gyda swyddfa yn un o’n blychau lletygarwch ac edrychwn ymlaen at eu croesawu yn ôl ar ddiwrnodau gemau a pharhau â’r bartneriaeth dros y tymhorau sydd i ddod.”

Am fwy o wybodaeth ar Taylor Facilities Management ewch i https://www.taylor-fm.com

Llun: Ryan Taylor, Regional Contracts Manager at Taylor FM, is pictured with Scarlets player Blade Thomson