Scott Williams yw eich chwaraewr y mis Olew dros Gymru!

Rob Lloyd Newyddion

Scott Williams sydd wedi ennill y bleidlais chwaraewr y cefnogwyr Olew dros Gymru ar gyfer mis Hydref.

Enillodd 74% o’r bleidlais, gan guro’r sialens o Rob Evans, Johnny McNicholl, Sione Kalamafoni a Blade Thomson.

Mae’r canolwr 31 oed wedi mwynhau ei ddychweliad i grys y Scarlets, gan orffen y bloc agoriadol o gemau gyda pherfformiad seren y gêm yn erbyn Benetton pan lwyddodd i gynorthwyo dwy gais i Dane Blacker.

Mae ei ffurf gyson hefyd wedi golygu iddo gael ei alw i fyny i garfan Cymru ar gyfer gemau’r Hydref.

Fel rhan o’i wobr bydd Scott yn rhoi crys Scarlets wedi’i lofnodi i elusen o’i ddewis.