SOC yn arwyddo’i gytundeb hŷn gyntaf gyda’r Scarlets

Rob LloydDan Sylw, Newyddion

Mae’r prop ifanc a thalentog Sam O’Connor wedi arwyddo ei gytundeb hŷn gyntaf gyda’r clwb.

Mwynhaodd y prop pen rhydd 23 oed tymor campus yn 2024-25, gan wneud 12 o ymddangosiadau ac ymddangos mewn gemau allweddol yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a Chwpan Her.

Yn chwaraewr rhyngwladol ar lefel D18, mae ‘SOC’, fel ei frawd hynaf y prop rhyngwladol Harri, wedi datblygu trwy’r rhaglen ‘Exiles’, gan ymuno ag Academi’r Scarlets yn 17 oed.

Chwaraeodd rygbi lled-broffesiynol i Glwb Rygbi Llanelli a Chwins Caerfyrddin yn y Gynghrair Cymraeg a Super Rygbi Cymru, ond yn nawr yn paratoi am ei dymor cyntaf yn rhan o garfan hŷn Dwayne Peel a fydd yn chwilio i ddatblygu ar ôl cyrraedd rownd yr wyth olaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig eleni.

Mae Sam ar hyn o bryd yn gwella o anaf difrifol llinyn y gar a gafwyd yn ystod ymarfer tuag at ddiwedd y tymor, ond mae’n anelu at ddychwelyd ym mis Medi.

Dywedodd: “Dwi wedi bod yn rhan o’r Academi yma ers 2019, ac wrth chwarae yma gyda fy mrawd hefyd, mae’r clwb yn golygu llawer i mi – dwi mor falch i arwyddo fy nghytundeb hŷn gyntaf.

“I ni wedi profi tymor da, dwi wedi bod yn rhan ohoni lawer mwy ac mae chwarae fy rhan o helpu i gyrraedd rownd yr wyth olaf yn y bencampwriaeth wedi bod yn wych. Fel prop ifanc dwi’n teimlo fy mod i’n dysgu trwy’r amser ac mae cael y profiad o chwarae yn erbyn rhai o chwaraewyr rheng flaen gorau’r gêm yn mynd i fy muddio yn y hirdymor.

“Roeddwn i’n siomedig i golli allan ar yr wythnosau olaf o’r tymor ar ôl derbyn anaf yn yr wythnos o gêm Leinster, ond mae’r llawdriniaeth wedi bod yn llwyddiannus ac mae nawr angen i mi ganolbwyntio ar wella dros yr haf. Gobeithio gallai fod nôl mas ar y cae am ddechrau’r tymor nesaf.

“Mae yna grŵp cyffrous ifanc yma sydd yn benderfynol o adeiladu ar yr hyn i ni wedi cyflawni dros y tymor. Rydym yn adeiladu perthynas da a theimlaf fe allwn fynd ymlaen i bethau mawr – edrychaf ymlaen at fod yn rhan o hynny.”

Ychwanegodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “I ni wedi gweld llawer o ddatblygiad gan SOC dros y tymor, yn ei chwarae ac yn ymarferion. Trwy ddod ymlaen o’r fainc yn ystod gemau pwysig tuag at ddiwedd y tymor, dangosodd cynnydd mawr ac roedd yn siom i’w weld ei dymor yn torri’n fyr trwy anaf.

“Mae ganddo lawer o botensial ac yn un o’r nifer o chwaraewyr rheng flaen rydym yn edrych ymlaen at weld yn datblygu. Rwy’n siŵr iddo ddod nôl yn gryfach ar ddechrau’r tymor newydd.”

Mae Sam yn graddio o’r Academi wrth ochr Macs Page i mewn i’r garfan hŷn ar gyfer tymor 2025-26. Mae Tomi Lewis, Eddie James, Joe Roberts, Taine Plumtree, Kemsley Mathias, Sam Costelow a Johnny William eisoes wedi arwyddo cytundebau i aros gyda’r clwb.

Yn ymuno â nhw ar gyfer ymarferion yr haf fydd ein chwaraewyr newydd; Joe Hawkins, Jake Ball, Dane Blacker, Tristan Davies ac Ioan Jones.