Taine Plumtree wedi’i alw i mewn i garfan Cymru

Rob LloydNewyddion

Mae y chwaraewr di-gap Taine Plumtree, a oedd wedi’i ddatgelu fel chwaraewr newydd y Scarlets wythnos diwethaf, wedi’i alw i fyny i garfan Cymru.

Wedi’i eni yn Abertawe (23), wnaeth Plumtree cwrdd a’i gydchwaraewyr rhyngwladol yn Heathrow ar Ddydd Llun i deithio i’r Swisdr am wersyll dros pythefnos. Cyrrhaeddodd y garfan yn Fiesch neithiwr.

Dywedodd y Prif Hyfforddwr Warren Gatland: “Rydym wedi galw ar Taine Plumtree i ymuno â’r garfan i roi’r cyfle iddo. Siaradais â Taine rhyw dair wythnos yn ôl am y posibilrwydd; roedd mewn trafodaeth gyda’r Scarlets ar pryd am arwyddo gyda nhw. Cafodd ei eni yn Abertawe, a datblygodd trwy system Seland Newydd ac hefyd yn gymwys i chwarae i Dde Affrica hefyd trwy ei fam.

“I ni, wrth i ni golli Josh Macleod o ganlyniad i anaf, a sawl chwaraewr ddim ar gael a Taulupe Falatau wedi’i anafu, credir bod hyn yn gyfle da i Taine i ddod i mewn. Mae’n chwaraewr rheng ôl chwe trodfedd pum modfedd, does dim llawer o chwaraewyr fel hynny yng Nghymru.

“Ond yn 23 oed, pe bai ei fod yn dod i Gwpan y Byd neu beidio mae’n sicr yn chwaraewr rydym eisiau cadw am y dyfodol. Fe all hynny fod nes ymlaen gyda’r Chwe Gwlad yn dod i fyny, ond dyma gyfle iddo ac rydym yn ymwybodol o ba mor gyffroes mae Taine am y cyfle yma i ddod i’r Swisdr gyda ni.”

Yn dilyn y wersyll yn y Swisdr bydd y garfan yn cymryd seibiant cyn ailymgynnull ar gyfer wersyll yn Nhwrci o Orffennaf 23-31.