Mae Parc y Scarlets yn paratoi ar gyfer tymor cyffrous arall o rygbi’r Scarlets gan ddechrau dydd Sadwrn!
Bydd pob ciosg cyhoeddus yn y stadiwm nawr yn cynnig opsiynau talu cerdyn i wella profiad y cwsmer ym Mharc y Scarlets ymhellach.
Er nad ydym yn mynd i system gyfangwbl electronig fe ddylai’r opsiynau talu cerdyn newydd sicrhau proses fwy effeithlon yn y ciosgau.