Taniwch eich angerdd gyda chig coch Cymru

vindico Newyddion

Mae Scarlets wedi ymuno mewn partneriaeth fasnachol newydd gyda Hybu Cig Cymru i helpu hyrwyddo cig coch Cymru.

Yn ganolog i’r bartneriaeth bydd tynnu sylw at nifer o fuddion maethol Cig Oen a Chig Eidion Cymru fel rhan o ddeiet iach a chytbwys, gyda chwaraewyr y Scarlets yn helpu i greu rhai ryseitiau maethlon a blasus yn ystod 2020.

Mewn lansiad arbennig cyn y Nadolig o’r bartneriaeth ym Mharc y Scarlets, roedd seren Cymru Leigh Halfpenny a chyd-aelodau tîm y Scarlets Ioan Nicholas a Tom James wrth law i ddangos eu cefnogaeth.

Hefyd yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r diwydiant ehangach – Emily Rees o HCC, cigydd Llanymddyfri Dai Mathews, Phil Jones, ffermwr cig eidion o Gynwyl Elfed ac Alex Luck o fwyty Dexters Steakhouse a Grill yng Nghaerfyrddin.

Ar hyn o bryd mae HCC yn gweithio ar nifer o fentrau gyda’r nod o roi hwb i’r diwydiant, gan gynnwys ymgyrch proffil uchel sy’n lansio ym mis Ionawr i dynnu sylw at gynaliadwyedd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru a’r buddion niferus o brynu bwyd o ffynonellau lleol a chynhyrchir yn foesegol.

Y sefydliad fydd noddwr lletygarwch diwrnod gêm ar gyfer y gêm ddarbi fawr Dydd San Steffan yn erbyn y Gweilch ac maent yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r Scarlets dros y misoedd nesaf.

Mae’r Scarlets bob amser wedi bod â chysylltiad cryf â’r diwydiant ffermio gyda phrop Cymru Wyn Jones wedi’i fagu ar fferm wartheg a defaid yn Llanymddyfri.

“Mae HCC yn falch o fod yn cefnogi’r Scarlets ac i allu tynnu sylw at sut mae cig coch yn rhan mor bwysig o faeth i’r rheini nid yn unig mewn chwaraeon proffesiynol, ond hefyd i bobl o bob oed sydd eisiau aros yn heini ac yn iach ac arwain ffordd o fyw egnïol,” meddai Emily Rees, Gweithredwraig Datblygu Marchnad Manwerthu HCC yn y DU.

Dywedodd Pennaeth Masnachol Scarlets James Bibby: “Rydym yn falch iawn o groesawu Hybu Cig Cymru i’n teulu yma yn y Scarlets ac rydym yn edrych ymlaen at dyfu ein partneriaeth â diwydiant cig coch Cymru trwy nifer o hyrwyddiadau a mentrau yn ystod y tymor.”

Yn y llun mae chwaraewyr y Scarlets Leigh Halfpenny, Tom James ac Ioan Nicholas gydag Emily Rees o HCC, Alex Luck (Dexters Steakhouse a Grill), y cigydd Dai Mathews a’r ffermwr cig eidion Phil Jones.