Teithio i wylio Caerlyr v Scarlets

Menna Isaac Newyddion

Ry’n ni’n falch iawn cadarnhau y byddwn ni’n trefnu taith i wylio’r Scarlets yn erbyn Caerlyr yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, Welford Road, ar nos Wener 19eg Hydref.

Cefnogwch y bois yn Ewrop ac ymunwch â ni wrth i ni deithio i Gaerlyr ar gyfer gêm oddi cartref cyntaf pencampwriaeth 2018-19 Cwpan Pencampwyr Heineken.

Mae’n rhaid cael oleiaf 40 o gefnogwyr ar y trip i ni barhau.

Taith un diwrnod £24.50 y pen

Amserau a lleoliadau casglu;

11:15 Gorsaf drenau Caerfyrddin

11:30 Cross Hands – J&J Motors

11:50 Domino’s Pizza

12:00 Parc y Scarlets

12:45 Gwasanaethau Gorllewin Caerdydd

Cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39 i archebu’ch lle.

Taith dros nos £69 y pen

  • Gwener 19eg Hydref

11:00 Gadael Parc y Scarlets

  • Gwely a Brecwast Premier Inn Froose Park
  • Sadwrn 20fed Hydref

10:00 Gadael Premier Inn Froose Park

  • Yn cynnwys teithio o’r gêm ac yn ôl
  • £30 y pen yn ychwanegol os ydych yn teithio ar ben eich hun mewn stafell sengl
  • Nid yw’n cynnwys tocyn i’r gêm

Cysylltwch â [email protected] i archebu.