Eisiau ymuno â ni ar y trip oddi cartref cyntaf y tymor hwn? Fe fyddwn ni’n rhedeg trip swyddogol i Gaerfaddon ar gyfer y gêm gyfeillgar.
Teithiwch gyda ni ddydd Gwener 24ain Awst i gefnogi’r tîm wrth iddynt wynebu Caerfaddon yn yr her olaf cyn i dymor Guinness PRO14 ddechrau wythnos wedyn yn erbyn Ulster yn Stadiwm Southern Kingspan.
Pris tocyn teithio yw £23 y person.
Amserau a lleoliadau casglu;
13:15 Gorsaf drenau Caerfyrddin
13:30 Cross Hands – J&J Motors
13:50 Dominos Pizza Llanelli
14:00 Parc y Scarlets
14:45 Gwasanaethau Gorllewin Caerdydd
Fe fydd angen 40 person ar y bws er mwyn sicrhau bod y daith yn rhedeg.
Fe fydd y bws yn gadael Caerfaddon awr ar ôl y chwiban olaf.
I archebu’ch lle cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39, 9am-5pm Llun i Gwener.