Mae tîm y Dwyrain Dan 16 oed yn wynebu brig y tabl ddydd Sul wrth deithio i Fae Colwyn i gael eu croesawu gan RGC. Ar ôl dwy fuddugoliaeth yn olynol, mae carfan y Dwyrain yn edrych i barhau â’u llwyddiant yn erbyn tîm cryf RGC.
Dim ond dau newid y mae’r Prif Hyfforddwr Alun Jones yn eu gwneud i’w XV cychwynnol o fuddugoliaeth yr wythnos diwethaf. Daw Dafydd Waters i mewn yn safle’r cefnwr gan symud Luke Davies i’r fainc a Dafydd Jones sy’n cael y nod fel prop pen tynn.
Tîm Scarlets y Dwyrain i wynebu RGC ddydd Sul 16eg o Chwefror, CG 14:00, Parc Eirias Bae Colwyn
15 Dafydd Waters, 14 Rhydian Davies, 13 Iestyn Gwiliam ©, 12 Harrison Griffiths, 11 Rhys Harris, 10 Tal Rees, 9 Ifan Davies, 1 Iwan Evans, 2 Jamie Goldsworthy, 3 Dafydd Jones, 4 Logan Sullivan, 5 Brandon Davies, 6 Alfie Montgomery-Rice, 7 Cian Trevelyan, 8 Luca Giannini
Eilyddion: 16 Evan Harrow, 17 Hefyn Knight, 18 Berian Williams, 19 Thomas Davies, 20 Celt Llewellyn-Jones, 21 Tom Morgan, 22 Luke Davies 23 Corey Morgan.
Dilynwch yr holl gamau diweddaraf draw ar Twitter @ScarletsAcademy!