Tocyn Hanner Tymor ar gael nawr

Menna Isaac Newyddion

Chwilio am yr anrheg Nadolig perffaith? Does dim angen i chi edrych ymhellach!

Ry’n ni’n falch iawn cadarnhau bod ein Tocynnau Hanner Tymor ar gael i’w prynu nawr. Fe fydd pob Tocyn Hanner Tymor yn cael eu cyflwyno mewn pecyn Nadoligaidd.

Am £149 yn unig i oedolion a £19 i ieuenctid fe allwch chi fwynhau holl gyffro gweddill y tymor ym Mharc y Scarlets gan ddechrau gyda’r gêm Nadoligaidd yn erbyn Gleision Caerdydd ar ddydd Sadwrn 29ain Rhagfyr.

Mae’ch Tocyn Hanner Tymor yn cynnwys;

  • Tocyn i 7 gêm ym Mharc y Scarlets a sedd gadw
  • Cyfle cyntaf i brynu tocyn ar gyfer gemau ail gyfle ym Mharc y Scarlets
  • Cyfle cynnar i archebu lle ar gyfer digwyddiadau’r Scarlets yn y Parc
  • Aelodaeth 2018-19 Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Crys16 am ddim
  • Talebau a chynigion arbennig gan bartneriaid
  • Gostyngiad o 10% oddi ar becynnau lletygarwch
  • Cyfle i brynu 4 tocyn i gêm categori B o’ch dewis am bris gostyngedig

Prisiau;

Oedolion = £149

Consesiwn = £130

Ieuenctid = £19

Oedolyn Ifanc = £60

I brynu cliciwch yma