Tocynnau Cwpan Pencampwyr Heineken ar werth fory

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd y Scarlets wynebu Racing92, Ulster a Chaerlyr yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop 2018-19.

Ry’n ni’n falch iawn cadarnhau y bydd tocynnau ar gyfer y gemau cartref yn ein grwp ar werth o 10am fory, mercher 22ain Awst.

Gwnewch yn siwr eich bod chi #ynypac gyda ni ym Mharc y Scarlets ar gyfer holl gyffro’r tymor newydd.

Gemau cartref Cwpan Pencampwyr Heineken y Scarlets;

  • Scarlets v Racing 92, Sadwrn 13eg Hydref, CG 17:30
  • Scarletsv Ulster Rugby, Gwener 7fed Rhagfyr, CG 19:45
  • Scarletsv Leicester Tigers, Sadwrn 12fed Ionawr, CG 17:30

Fe fydd y tocynnau ar gael am y pris rhad hyd at pedair wythnos cyn dyddiad y gêm.

Fe fydd y tocynnau i gyd ar gael ar y we o 10am fory, Mercher 22ain Awst.

Os hoffech blaenarchebu tocynnau ar gyfer y gemau oddi cartref ebostiwch [email protected] neu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39.