Mae llai na tair wythnos i fynd tan gêm agoriadol tymor 2025-26 Pencampwriaeth Rygbi Unedig yma ym Mharc y Scarlets.
Byddwn ni’n croesawi Munster i’r Parc, ddydd Sadwrn 27ain Medi, cic gyntaf 17:30.
Os ydych wedi adnewyddu eich tocyn tymor, neu wedi ymuno â theulu’r Scarlets ar gyfer y tymor newydd, mae’ch tocyn tymor yn barod i’w gasglu.
Mae cwsmeriaid sydd wedi addnewyddu sedd o dymor 2024-25 yn gallu parhau i ddefnyddio’r un cerdyn.
Mae cwsmeriaid sydd wedi addnewyddu sedd o dymor 2024-25 yn gallu parhau i ddefnyddio’r un cerdyn.
Mae’n bosib erbyn hyn i chi ychwanegu eich Tocyn Tymor 2025-26 i’ch ffôn hefyd, gan wneud eich ymweliad â Pharc y Scarlets ar ddiwrnod gêm hyd yn oed yn haws.
Sut i lawrlwytho eich tocyn tymor
- Arhoswch am ebost wrth swyddfa docynnau’r Scarlets
- Dewiswch yr eicon perthnasol i safio’ch tocyn i’ch ffôn (Apple neu Google)
- Os ydych yn gwynebu unrhyw problemau technegol cysylltwch â [email protected] or call 01554 29 29 39
Gadewch i ni godi’r to wrth i filoedd o leisiau uno mewn cân ym Mharc y Scarlets. Dangoswch eich cefnogaeth ddydd Sadwrn 27ain Medi.
Mae dal amser i chi adnewyddu / prynu tocyn tymor, cliciwch yma here