Tom Rogers nôl yn nhîm Cymru i wynebu’r Pumas

Rob Lloyd Newyddion

Mae Tom Rogers ar drywydd i ennill ei ail gap i Gymru ar ôl cael ei enwi yn yr ochr i wynebu’r Ariannin yn Stadiwm y Principality ar ddydd Sadwrn.

Bydd Rogers ar ochr chwith yr asgell ymysg y XV sy’n dangos saith newid. Ei gyd-chwaraewr Scarlets Jonathan Davies fydd yn arwain yr ochr wrth i’r mewnwr Kieran Hardy gael ei enwi ar y fainc.

“Roedd pawb yn teimlo’n rhwystredig ar ôl orffen yn gyfartal penwythnos diwethaf, fe adawon nifer o gyfleoedd ar y cae,” dywedodd Pivac

“Fe chwaraeodd yr Ariannin fel y disgwylir, roedd y tîm yn fawr, yn gorfforol ac yn chwarae gêm cicio da. I rai yn ein grŵp, dyna oedd y tro cyntaf iddyn nhw chwarae’r lefel yna o gorfforaeth a dwyster a bydd angen i ni fod llawer mwy disbygliedig a gywir wythnos yma.

“Mae’n gyfle cyffroes arall i ni chwarae tîm da ac mae’n bosib i ni ennill y gyfres o hyd, a byse hynny yn ffordd wych i orffen ein tymor.

“Rydym wedi newid y garfan ychydig, i roi cyfleoedd i eraill ac mae sawl un yn ysu i greu argraff ar y cae.”

Tîm Cymru i wynebu’r Ariannin, Dydd Sadwrn, Gorffennaf 17, 15:00 (yn fyw ar S4C)

15 Hallam Amos (Cardiff); 14 Owen Lane (Cardiff), 13 Nick Tompkins (Saracens), 12 Jonathan Davies (Scarlets, capt), 11 Tom Rogers (Scarlets); Jarrod Evans (Cardiff), 9 Tomos Williams (Cardiff); Gareth Thomas (Ospreys), Elliot Dee (Dragons), 3 Leon Brown (Dragons), 4 Ben Carter (Dragons), 5 Will Rowlands (Dragons), 6 Josh Turnbull (Cardiff), 7 James Botham (Cardiff), 8 Ross Moriarty (Dragons).Reps: 16 Sam Parry (Ospreys), 17 Rhodri Jones (Ospreys,  18 Dillon Lewis (Cardiff), 19 Matthew Screech (Cardif), 20 Taine Basham (Dragons), 21 Kieran Hardy (Scarlets),  22 Callum Sheedy (Bristol Bears), 23 Uilisi Halaholo (Cardiff Rugby).