Tomas Lezana wedi’i enwi yng ngharfan Pumas ar gyfer Rugby Championship

Rob Lloyd Newyddion

Mae chwaraewr rheng ôl y Scarlets Tomas Lezana wedi’i enwi yng ngharfan 47 dyn yr Ariannin ar gyfer Zurich Rugby Championship.

Bydd Lezana, sydd ar hyn o bryd yn ymarfer ym Mharc y Scarlets, yn ymuno â’r Pumas o flaen eu gêm agoriadol yn erbyn De Affrica ar Awst 14.

Mae’r chwaraewr 27 oed, sydd wedi’i gapio 39 o weithiau i’w wlad, wedi arwyddo i’r Scarlets o dîm Super Rugby Awstralia, Western Force.