Triawd y Scarlets wedi’u enwi yn ochr y Llewod ar gyfer gêm ddiwethaf y gyfres

Rob Lloyd Newyddion

Mae Liam Williams, Wyn Jones a Ken Owens wedi’u enwi yn ochr y Llewod i wynebu’r Springboks yn gêm ddiwethaf y gyfres ar ddydd Sadwrn yn Cape Town.

Mae Williams yn cymryd lle Stuart Hogg fel cefnwr, Jones yn dod i mewn yn lle Mako Vunipola fel prop pen rhydd, wrth i Owens ddechrau fel bachwr yn lle Luke Cown Dickie.

Mae prif sgoriwr y daith, Josh Adams (Rygbi Caerdydd, Cymru), yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Llewod ar yr asgell dde gan ymuno Duhan van der Merwe (Wocester Warriors, yr Alban) sydd yn cadw ei le ar y chwith. Williams (Scarlets, Cymru) sydd yn cwblhau’r tri ôl.

Mae Bundee Aki (Connacht Rugby, Iwerddon) wedi’i gynnwys fel canolwr i ennill ei gap Prawf cyntaf, gan ymuno â Robbie Henshaw (Leinster Rugby, Iwerddon) sydd yn newid i 13. Dan Biggar (Northampton Saints, Cymru) sydd yn cadw ei le fel maswr gyda Ali Price (Glasgow Warriors, yr Alban) yn dechrau fel mewnwr ar ôl cael ei enwi ar y fainc penwythnos diwethaf.

Yn y pac, mae dau newid i’r rheng flaen gyda’r prop ddi-anaf Wyn Jones (Scarlets, Cymru) yn cymryd lle’r prop pen rhydd i wneud ei ymddangosiad Prawf cyntaf wrth ochr ei gyd-chwaraewr Scarlet Ken Owens (Scarlets, Cymru) a fydd yn cael ei ddechreuad Prawf gyntaf o’r daith fel bachwr. Bydd Tadgh Furlong (Leinster Rugby, Iwerddon) yn parhau ar y pen tynn i ennill ei chweched cap Prawf.

Mae Alun Wyn Jones (Gweilch, Cymru) wedi’i enwi yn gapten i ennill ei 12fed cap yn olynol gan ei rhoi wrth ochr Graham Price (1977-1983) a Mike Gibson (1966-1974) yn y rhestr am y fwyaf o ymddangosiadau Prawf i’r Llewod. Mae’r Cymro wedi’i bartneri yn yr ail reng gyda Maro Itoje (Saracens, Lloegr).

Mae’r rheng ôl heb newidiadau wrth i Courtney Lawes (Northampton Saints, Lloegr) fel blaenasgellwr, Tom Curry (Sale Sharks, Lloegr) ar yr ochr agored a Jack Conan (Leinster, Iwerddon) fel wythwr.

Ar y fainc mae Adam Beard (Gweilch, Cymru), Finn Russell (Racing 92, Yr Alban), a Sam Simmonds (Exeter Chiefs, Lloegr) gan ymddangos am y tro cyntaf yn y gyfres Prawf ac yn ennill eu capiau cyntaf os ydyn yn camu i’r cae. Mae Kyle Sinckler (Bristol Bears, Lloegr) wedi’i gynnwys yn amodol ar ganlyniad y cyfarfod disgyblaethu.

Gêm dydd Sadwrn yn erbyn Pencampwyr y Byd fydd y gêm olaf yn y gyfres Prawf 2021 Castle Lager ac fydd yn cael ei ddarlledu ar Sky Sports.

DE AFFRICA v Y LLEWOD

15. Liam Williams (Scarlets, Wales); 14. Josh Adams (Cardiff Rugby, Wales),         13. Robbie Henshaw (Leinster Rugby, Ireland),  12. Bundee Aki (Connacht Rugby, Ireland), 11. Duhan van der Merwe (Worcester Warriors, Scotland); 10. Dan Biggar (Northampton Saints, Wales),  9. Ali Price (Glasgow Warriors, Scotland);  1. Wyn Jones (Scarlets, Wales), 2. Ken Owens (Scarlets, Wales), 3. Tadhg Furlong (Leinster Rugby, Ireland), 4. Maro Itoje (Saracens, England),5. Alun Wyn Jones – captain (Ospreys, Wales), 6. Courtney Lawes (Northampton Saints, England),   7. Tom Curry (Sale Sharks, England), 8. Jack Conan (Leinster Rugby, Ireland).

Eilyddion:16. Luke Cowan-Dickie (Exeter Chiefs, England),  17. Mako Vunipola (Saracens, England), 18. *Kyle Sinckler (Bristol Bears, England) – subject to outcome of disciplinary hearing; 19. Adam Beard (Ospreys, Wales), 20. Sam Simmonds (Exeter Chiefs, England), 21. Conor Murray (Munster Rugby, Ireland),  22. Finn Russell (Racing 92, Scotland), 23. Elliot Daly (Saracens, England).