Y chwaraewyr Merched Cymru llawn amser cyntaf i ennill cytundebau gan Undeb Rygbi Cymru.
Derbyniwyd deuddeg chwaraewr cytundeb llawn amser – dau cytundeb yn fwy nag oedd wedi’u cyhoedi’n gyntaf.
Mae’r cytundebau 12 mis wedi cychwyn wythnos yma gyda’r chwaraewyr yn ymarfer yng Nghanolfan Rhagoriaeth Genedlaethol.
Wedi’u cynnwys yn y 12 mae chwe cyn Scarlet – Jasmine Joyce, Alisha Butchers, Hannah Jones, Ffion Lewis, Gwenllian Pyrs a Lisa Neumann.
Y chwaraewr llawn amser cyntaf:
Blaenwyr: Alisha Butchers, Natalia John, Siwan Lillicrap, Carys Phillips, Gwenllian Pyrs, Donna Rose.
Olwyr: Kiera Bevan, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Ffion Lewis, Lisa Neumann, Elinor Snowsill
Dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad URC Nigel Walker: “Bydd y cytundebau hanesyddol yma galluogi i’r chwaraewyr yma i ymarfer fel chwaraewyr llawn amser, a chael cyswllt wythnosol gyda’r prif hyfforddwr Ioan Cunningham, a gweddill yr hyfforddwyr ac ein timau meddygol a gwyddonol. Bydd hyn yn sicr yn gwneud gwahaniaeth ym mharatoadau’r chwaraewyr, fitrwydd a sgiliau er mwyn galluogi i herio ein statws i fod yn un o timau gorau’r byd.
“Rydym yn hapus iawn gyda safon y chwaraewyr o’u perfformiadau y Hydref ac fe arweiniodd hyn at ychwanegu dau cytundeb newydd, ac roedd y tîm hyfforddi yn teimlo bod 12 chwaraewr yn ffurfio osgo’r tîm a chreu effaith mawr. Bydd y chwaraewyr yma’n cael eu ymuno gan 15 chwaraewr ar gytundebau ‘retainer’ dros yr wythnosau nesaf.”
Dyweodd prif hyfforddwr Merched Cymru Ioan Cunningham “Mae’r broses wedi bod yn anodd ond yn bleser. Pob clod i’r chwaraewyr sydd wedi gwneud y penderfyniad yn un anodd. Rydym i gyd yn edrych ymlaen i ddechrau’r rhaglen. Y ffactor pwysicaf yn ein dewis oedd talent a’r gallu ac wedyn y potensial o wella’r chwaraewr unigol gyda’u hagwedd.
“Fe aeth y sgyrsiau o gytuno ar gytundeb yn dda ond yn emosiynol. Mae rhai o’r chwaraewyr wedi gorfod gweithio trwy cyfnodau anodd yn broffesiynol ac yn bersonol ond mae’n wych i gael nhw gyd yma yn y canolfan wrth i ni gychwyn ar ein cynllun.”