Vaea Fifita yn barod am ei ymddangosiad cyntaf i Tonga

Rob Lloyd Newyddion

Bydd Vaea Fifita yn ymddangos am y tro cyntaf i Tonga ar Ddydd Sadwrn yn erbyn Sbaen ym Malaga.

Yn enidigol o Tonga, mae gan y blaenwr 11 o gapiau i’r Crysau Duon i’w enw, ond dyma fydd y tro cyntaf iddo chwarae i’w wlad enedigol. I wneud yr achlysur yn fwy arbennig, yn ymuno â Vaea yn yr ail reng bydd ei frawd hynaf Leva.

Fifita bydd y 245ed chwaraewr Scarlet i gynrychioli’i wlad ar y lwyfan rhgynwladol.

Yn ymuno â Fifta am weddill yr ymgyrch Hydref bydd Sam Lousi. Ar hyn o bryd mae’r clo wedi’i wahardd o chwarae yn dilyn derbyn cerdyn coch yn erbyn Zebre.