Mae prop y Scarlets Wyn Jones wedi’i enwi yn nhîm y Llewod ar gyfer eu gêm agoriadol o daith 2021 Castle Lager Lions Seies pan fydd yr ymwelwyr yn chwarae yn erbyn Emirates Lions ar ddydd Sadwrn (cic gyntaf 5yh BST).
Mae Jones, a ddaeth oddi’r fainc yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Japan penwythnos diwethaf, yn dechrau yn safle’r prop pen tynn, wrth i’r maswr Gareth Davies wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y crys byd enwog ar ôl cael ei enwi ymysg yr eilyddion.
Bydd cefnwr yr Alban Stuart Hogg yn arwain yr ochr sydd yn dangos 14 newid i’r un a wnaeth wynebu Japan yng Nghaeredin gyda Josh Adams (Rygbi Caerdydd, Cymru) fel yr unig chwaraewr i aros fel rhan o’r tîm.
“Mae’n grêt i gyrraedd Johannesburg a dechrau’r daith”, dywedodd prif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland.
“Roedd hi’n fuddugoliaeth da yng Nghaeredin wythnos diwethaf, ond mae llawer i wneud erbyn dydd Sadwrn.
“Dwi’n ffyddiog gyda’r ffordd mae’r bois wedi ymarfer ar hyd yr wythnos. Teimlaf eu bod wedi camu i fyny o’r safon pan roeddwn yn Jersey ac rydym yn dechrau dealltwriaeth gwell o rhai o’r tactegau.
“Rydym yn trial cyfuniadau newydd o chwaraewyr ar ddydd Sadwrn – sydd yn dda i ni wrth i’r gyfres ddechrau.
“Rwy’n llongyfarch rhieny sydd yn chwarae eu gêm cyntaf fel Llew, ac i Hoggy hefyd – rwy’n siwr fydd yn arweinydd da.”
EMIRATES LIONS v THE BRITISH & IRISH LIONS (Dydd Sadwrn 3 Gorffennaf 2021; Emirates Airline Park, Johannesburg, Cic Gyntaf: 5yh (BST)
15. Stuart Hogg – captain (Exeter Chiefs, Scotland); 14. Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby, Wales), 13. Chris Harris (Gloucester Rugby, Scotland), 12. Owen Farrell (Saracens, England); 11. Josh Adams (Cardiff Rugby, Wales); 10. Finn Russell (Racing 92, Scotland), 9. Ali Price (Glasgow Warriors, Scotland); 1. Wyn Jones (Scarlets, Wales), 2. Jamie George (Saracens, England), 3. Kyle Sinckler (Bristol Bears, England), 4. Maro Itoje (Saracens, England), 5. Jonny Hill (Exeter Chiefs, England), 6. Courtney Lawes (Northampton Saints, England), 7. Hamish Watson (Edinburgh Rugby, Scotland) , 8. Taulupe Faletau (Bath Rugby, Wales).
Eilyddion: 16. Luke Cowan-Dickie (Exeter Chiefs, England) , 17. Mako Vunipola (Saracens, England), 18. Zander Fagerson (Glasgow Warriors, Scotland), 19. Iain Henderson (Ulster Rugby, Ireland), 20. Sam Simmonds (Exeter Chiefs, England), 21. Gareth Davies (Scarlets, Wales), 22. Bundee Aki (Connacht Rugby, Ireland), 23. Elliot Daly (Saracens, England).