Mae’r Scarlets yn falch o gyhoeddi bydd chwaraewr rhyngwladol Cymru Joe Hawkins yn ein hymuno ar gyfer tymor 2025-26.
Bydd y chwaraewr 22 oed yn ymuno â’r garfan yn yr haf ar ôl treulio dau dymor gyda Exeter Cheifs.
Gyda’r gallu i chwarae fel maswr neu canolwr, mae’r chwaraewr amryddawn yn cael ei adnabod fel un o dalentau ifanc mwyaf sydd wedi datblygu trwy’r system yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf.
Wedi datblygu trwy system y Gweilch, ymddangosodd Joe am y tro cyntaf i Gymru D10 yn 17 oed ac ar ôl serennu yn sawl perfformiad fe raddiodd i’r garfan hyn, gan ennill ei gap cyntaf yn erbyn Awstralia yn ystod Cyfres yr Hydref yn 2022.
Aeth ymlaen i ymddangos yn pedair o gemau Chwe Gwlad Cymru yn 2023.
Ymunodd Joe â’r Chiefs o’r Gweilch yn 2023 ac ymddangosodd 33 o weithiau i dîm Rob Baxter, gan chwarae ei ran yn y fuddugoliaeth yn erbyn Ealing Trailfinders penwythnos diwethaf i sicrhau lle yn y rownd derfynol o Gwpan y Gynghrair.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae gan Joe llawer o botensial fel chwaraewr ac i ni wrth ein bodd i ddod a fe adre’ ac i’r Scarlets. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei groesawu i Barc y Scarlets ac i’w weld yn serennu yng nghrys y Scarlets.
“Mae ganddo’r gallu i chwarae mewn sawl safle ac yn ychwanegu at y tîm ifanc, cyffrous sydd gyda ni yma ac sydd eisiau cystadlu.
“Yn dilyn sawl sgwrs gyda Joe mae’n amlwg ei fod yn berson ymroddedig a gyda’r meddylfryd cywir i ennill. Croeso Joe.”
Wrth sôn am symud o Orllewin Lloegr i Orllewin Cymru, dywedodd Joe: “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at fod nôl adre’ a gyda’r Scarlets a gwneud fy ngorau i ychwanegu at garfan gyffrous.
“Wedi gwylio’r tîm a siarad gyda Dwayne, mae’r steil o rygbi sydd yn cael ei chwarae yna yn apelio ata i ac yn rhywbeth dwi am fod yn rhan ohono gan chwarae i fy nghryfderau. Edrychaf ymlaen at ddechrau ym Mharc y Scarlets, i chwarae o flaen y cefnogwyr angerddol a gwthio ymlaen yn fy ngyrfa.”
Joe ydy’r cyhoeddiad diweddaraf ynglŷn â’r garfan fydd ym Mharc y Scarlets tymor nesaf yn dilyn y newyddion am ein holwyr talentog Macs Page a Tomi Lewis, y ddau sydd wedi cytuno ar gytundebau newydd gyda’r clwb.
Bydd mwy o newyddion yn cael ei chyhoeddi dros yr wythnosau i ddod.
Gyda Joe yn barod am y tymor newydd, beth am ei ymuno gyda thocyn tymor 2025-26 sydd wedi mynd ar werth wythnos hon.
Gallwch ddarllen mwy am ein pecynnau ar tickets.scarlets.wales neu drwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01554 292939.